1
Ioan 14:27
beibl.net 2015, 2024
Heddwch – dyna dw i’n ei roi yn rhodd i chi; yr heddwch go iawn sydd gen i, a neb arall, i’w roi. Dw i ddim yn rhoi heddwch yn yr un ffordd a’r byd. Peidiwch cynhyrfu, a pheidiwch bod yn llwfr.
Cymharu
Archwiliwch Ioan 14:27
2
Ioan 14:6
“Fi ydy’r ffordd,” atebodd Iesu, “yr un gwir a’r bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi.
Archwiliwch Ioan 14:6
3
Ioan 14:1
“Peidiwch cynhyrfu,” meddai Iesu wrth y disgyblion, “Credwch yn Nuw, a chredwch ynof fi hefyd.
Archwiliwch Ioan 14:1
4
Ioan 14:26
Ond mae un fydd yn sefyll gyda chi, sef yr Ysbryd Glân mae’r Tad yn mynd i’w anfon ar fy rhan. Bydd e’n dysgu popeth i chi ac yn eich atgoffa o bopeth dw i wedi’i ddweud.
Archwiliwch Ioan 14:26
5
Ioan 14:21
Y rhai sy’n derbyn beth dw i’n ddweud ac yn gwneud hynny ydy’r rhai sy’n fy ngharu i. Bydd y Tad yn caru y rhai sy’n fy ngharu i, a bydda i yn eu caru nhw hefyd, ac yn egluro fy hun iddyn nhw.”
Archwiliwch Ioan 14:21
6
Ioan 14:16-17
Bydda i’n gofyn i’r Tad, a bydd e’n rhoi un arall fydd yn sefyll gyda chi ac yn aros gyda chi am byth – sef yr Ysbryd sy’n dangos y gwir i chi. Dydy’r byd ddim yn gallu ei dderbyn am fod y byd ddim yn ei weld nac yn ei nabod. Ond dych chi yn ei nabod am ei fod yn sefyll gyda chi ac am ei fod yn mynd i fod ynoch chi.
Archwiliwch Ioan 14:16-17
7
Ioan 14:13-14
Bydda i’n gwneud beth bynnag ofynnwch chi am awdurdod i’w wneud, fel bod y Mab yn anrhydeddu’r Tad. Cewch ofyn i mi am awdurdod i wneud unrhyw beth, ac fe’i gwnaf.
Archwiliwch Ioan 14:13-14
8
Ioan 14:15
“Os dych chi’n fy ngharu i, byddwch yn gwneud beth dw i’n ddweud.
Archwiliwch Ioan 14:15
9
Ioan 14:2
Mae digon o le i fyw yn nhŷ fy Nhad; byddwn i wedi dweud wrthoch chi os oedd hi fel arall. Dw i’n mynd yno i baratoi lle ar eich cyfer chi.
Archwiliwch Ioan 14:2
10
Ioan 14:3
Wedyn dw i’n mynd i ddod yn ôl, a bydda i’n mynd â chi yno gyda mi, a chewch aros yno gyda mi.
Archwiliwch Ioan 14:3
11
Ioan 14:5
“Ond Arglwydd,” meddai Tomos, “dŷn ni ddim yn gwybod lle rwyt ti’n mynd, felly sut allwn ni wybod y ffordd yno?”
Archwiliwch Ioan 14:5
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos