Dyma Job yn codi ar ei draed ac yn rhwygo’i ddillad. Yna siafiodd ei ben a mynd ar ei liniau o flaen Duw â’i wyneb ar lawr, a dweud:
“Ces i fy ngeni heb ddim,
a bydda i’n marw heb ddim.
Yr ARGLWYDD wnaeth roi popeth i mi,
a’r ARGLWYDD sydd wedi cymryd popeth oddi arna i.
Boed i enw’r ARGLWYDD gael ei foli!”
Er gwaetha’r cwbl, wnaeth Job ddim pechu na rhoi’r bai ar Dduw.