Ond mae Duw’n gallu cael gwared â’r rhai pwerus,
pan mae e’n codi, all neb fod yn siŵr y caiff fyw.
Mae’n gadael iddyn nhw gredu eu bod yn saff,
ond yn cadw golwg ar beth maen nhw’n ei wneud.
Maen nhw’n bwysig am ychydig, ond yna’n diflannu;
maen nhw’n syrthio ac yn crino fel glaswellt,
ac yn gwywo fel pen y dywysen.