Job 24:22-24
Job 24:22-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond mae Duw’n gallu cael gwared â’r rhai pwerus, pan mae e’n codi, all neb fod yn siŵr y caiff fyw. Mae’n gadael iddyn nhw gredu eu bod yn saff, ond yn cadw golwg ar beth maen nhw’n ei wneud. Maen nhw’n bwysig am ychydig, ond yna’n diflannu; maen nhw’n syrthio ac yn crino fel glaswellt, ac yn gwywo fel pen y dywysen.
Job 24:22-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Y mae ef yn meddiannu'r cryf trwy ei nerth, a phan gyfyd, nid oes gan neb hyder yn ei einioes. Gwna iddynt gredu y cynhelir hwy; eto y mae ei lygaid ar eu ffyrdd. Dyrchefir hwy dros dro, yna diflannant; gwywant a chiliant fel hocys; gwywant fel brig y dywysen.
Job 24:22-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac y mae efe yn tynnu y rhai cedyrn wrth ei nerth: y mae efe yn codi, ac nid oes neb diogel o’i einioes. Er rhoddi iddo fod mewn diogelwch, ar yr hyn y mae ei bwys; eto y mae ei lygaid ef ar eu ffyrdd hwy. Hwynt-hwy a ddyrchafwyd dros ychydig, ond hwy a ddarfuant, ac a ostyngwyd; hwy a dducpwyd ymaith fel pawb eraill, ac a dorrwyd ymaith fel pen tywysen.