Job 24
24
1Paham, gan na chuddiwyd yr amseroedd rhag yr Hollalluog, na welai y rhai sydd yn ei adnabod ef, ei ddyddiau ef? 2Y mae rhai yn symudo terfynau; yn ysglyfaethu defaid, ac yn ymborthi arnynt. 3Y maent yn gyrru asynnod yr amddifad ymaith: maent yn cymryd ych y wraig weddw ar wystl. 4Maent yn troi yr anghenog allan o’r ffordd: tlodion y ddaear a ymgydlechant. 5Wele, y maent fel asynnod gwylltion yn yr anialwch, yn myned allan i’w gwaith, gan geisio ysglyfaeth yn fore: y diffeithwch sydd yn dwyn iddynt fwyd, ac i’w plant. 6Medant eu hŷd yn y maes; a gwinllan yr annuwiol a gasglant. 7Gwnânt i’r tlawd letya yn noeth heb ddillad, ac heb wisg mewn oerni. 8Gwlychant gan lifeiriant y mynyddoedd; ac o eisiau diddosrwydd y cofleidiant graig. 9Tynnant yr amddifad oddi wrth y fron: cymerant wystl gan y tlawd. 10Gwnânt iddo fyned yn noeth heb ddillad; a dygant ddyrneidiau lloffa y rhai newynog. 11Y rhai sydd yn gwneuthur olew o fewn eu parwydydd hwynt, ac sydd yn sathru eu cafnau gwin, ydynt sychedig. 12Y mae gwŷr yn griddfan o’r ddinas, ac y mae eneidiau y rhai archolledig yn gweiddi; ac nid yw Duw yn rhoi ffolineb yn eu herbyn. 13Y rhai hynny sydd ymhlith y rhai sydd yn gwrthwynebu goleuni; nid ydynt yn adnabod ei ffyrdd, nac yn aros yn ei lwybrau. 14Gyda’r goleuad y cyfyd y lleiddiad, ac y lladd efe y tlawd a’r anghenog; a’r nos y bydd efe fel lleidr. 15A llygad y godinebwr sydd yn gwylied am y cyfnos, gan ddywedyd, Ni chaiff llygad fy ngweled; ac efe a esyd hug ar ei wyneb. 16Yn y tywyll y maent yn cloddio trwy dai, y thai a nodasant iddynt eu hunain liw dydd: nid adwaenant hwy oleuni. 17Canys megis cysgod marwolaeth ydyw y bore iddynt hwy: dychryn cysgod marwolaeth yw, os edwyn neb hwynt. 18Ysgafn ydyw ar wyneb y dyfroedd; melltigedig ydyw eu rhandir hwy ar y ddaear: ni thry efe ei wyneb at ffordd y gwinllannoedd. 19Sychder a gwres sydd yn cipio dyfroedd eira: felly y bedd y rhai a bechasant. 20Y groth a’i gollwng ef dros gof, melys fydd gan y pryf ef; ni chofir ef mwy: ac anwiredd a dorrir fel pren. 21Y mae efe yn dryllio yr amhlantadwy, yr hon ni phlanta; ac nid ydyw yn gwneuthur daioni i’r weddw. 22Ac y mae efe yn tynnu y rhai cedyrn wrth ei nerth: y mae efe yn codi, ac nid oes neb diogel o’i einioes. 23Er rhoddi iddo fod mewn diogelwch, ar yr hyn y mae ei bwys; eto y mae ei lygaid ef ar eu ffyrdd hwy. 24Hwynt-hwy a ddyrchafwyd dros ychydig, ond hwy a ddarfuant, ac a ostyngwyd; hwy a dducpwyd ymaith fel pawb eraill, ac a dorrwyd ymaith fel pen tywysen. 25Ac onid ydyw felly yn awr, pwy a’m gwna i yn gelwyddog, ac a esyd fy ymadrodd yn ddiddim?
Dewis Presennol:
Job 24: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.