Mewn breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos,
pan mae pobl yn cysgu’n drwm,
pan maen nhw’n gorwedd ar eu gwlâu,
mae e’n gwneud i bobl wrando –
yn eu dychryn nhw gyda rhybudd
i beidio gwneud rhywbeth,
a’u stopio nhw rhag bod mor falch.
Mae’n achub bywyd rhywun o bwll y bedd,
rhag iddo groesi afon marwolaeth.