1
Josua 6:2
beibl.net 2015, 2024
A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dw i’n mynd i roi dinas Jericho i ti. Byddi di’n concro ei brenin a’i byddin!
Cymharu
Archwiliwch Josua 6:2
2
Josua 6:5
Wedyn pan fydd yr offeiriaid yn seinio un nodyn hir ar y cyrn hwrdd, rhaid i’r fyddin i gyd weiddi’n uchel. Bydd waliau’r ddinas yn syrthio, a bydd y fyddin yn gallu ymosod, a’r dynion i gyd yn gallu mynd yn syth i mewn i’r ddinas.”
Archwiliwch Josua 6:5
3
Josua 6:3
Dw i eisiau i dy fyddin di fartsio o gwmpas Jericho un waith bob dydd am chwe diwrnod.
Archwiliwch Josua 6:3
4
Josua 6:4
Mae saith offeiriad i gerdded o flaen yr Arch, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd. Yna ar y seithfed diwrnod rhaid martsio o gwmpas y ddinas saith gwaith, gyda’r offeiriaid yn chwythu’r cyrn hwrdd.
Archwiliwch Josua 6:4
5
Josua 6:1
Roedd giatiau Jericho wedi’u cau’n dynn am fod ganddyn nhw ofn pobl Israel. Doedd neb yn cael mynd i mewn nac allan o’r ddinas.
Archwiliwch Josua 6:1
6
Josua 6:16
Y seithfed gwaith rownd, dyma’r offeiriaid yn chwythu un nodyn hir, a dyma Josua yn dweud wrth y bobl, “Gwaeddwch! Mae’r ARGLWYDD wedi rhoi’r ddinas i chi!
Archwiliwch Josua 6:16
7
Josua 6:17
Mae’r ddinas, a phawb a phopeth sydd ynddi, i gael ei dinistrio’n llwyr, fel offrwm i’r ARGLWYDD. Dim ond Rahab y butain a’r rhai sydd gyda hi yn ei thŷ sydd i gael byw, am ei bod hi wedi cuddio’r ysbiwyr wnaethon ni eu hanfon.
Archwiliwch Josua 6:17
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos