Dos, a dwed wrth y bobl am fynd drwy’r ddefod o buro’u hunain erbyn yfory. Mae’r ARGLWYDD, Duw Israel yn dweud, ‘Israel, mae yna bethau gynnoch chi oedd piau fi ac i fod i gael eu dinistrio. Fyddwch chi ddim yn ennill y frwydr yn erbyn eich gelynion nes byddwch chi wedi cael gwared â’r pethau hynny.