Mae’r un sy’n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg
wedi’i fendithio’n fawr;
yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid,
nac yn eistedd gyda’r rhai
sy’n gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill;
yr un sydd wrth ei fodd
yn gwneud beth mae’r ARGLWYDD eisiau,
ac yn myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu ddydd a nos.