1
Datguddiad 16:15
beibl.net 2015, 2024
“Edrychwch! Dw i’n dod fel lleidr!” meddai Iesu. “Bydd y rhai sy’n cadw’n effro yn cael eu bendithio’n fawr! Bydd dillad ganddyn nhw, a fyddan nhw ddim yn cerdded o gwmpas yn noeth ac yn teimlo cywilydd pan fydd pobl yn edrych arnyn nhw.”
Cymharu
Archwiliwch Datguddiad 16:15
2
Datguddiad 16:12
Yna dyma’r chweched angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar afon fawr Ewffrates. Sychodd yr afon fel bod brenhinoedd o’r dwyrain yn gallu ei chroesi.
Archwiliwch Datguddiad 16:12
3
Datguddiad 16:14
Ysbrydion cythreulig ydyn nhw, a’r gallu ganddyn nhw i wneud gwyrthiau rhyfeddol. Dyma nhw’n mynd allan at frenhinoedd y ddaear i’w casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr olaf ar ddiwrnod mawr y Duw Hollalluog.
Archwiliwch Datguddiad 16:14
4
Datguddiad 16:13
Wedyn gwelais dri ysbryd drwg oedd yn edrych rywbeth tebyg i lyffantod. Daethon nhw allan o geg y ddraig, a cheg yr anghenfil a cheg y proffwyd ffug.
Archwiliwch Datguddiad 16:13
5
Datguddiad 16:9
Ond y cwbl wnaeth y bobl gafodd eu llosgi’n y gwres tanbaid oedd melltithio enw Duw, yr Un oedd yn rheoli’r plâu. Roedden nhw’n gwrthod newid eu ffyrdd a rhoi’r clod iddo.
Archwiliwch Datguddiad 16:9
6
Datguddiad 16:2
Dyma’r angel cyntaf yn mynd ac yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar y tir. Dyma friwiau cas yn dod i’r golwg ar gyrff y bobl hynny oedd â marc yr anghenfil arnyn nhw ac oedd yn addoli ei ddelw.
Archwiliwch Datguddiad 16:2
7
Datguddiad 16:16
Felly dyma’r ysbrydion drwg yn casglu’r brenhinoedd at ei gilydd i’r lle sy’n cael ei alw yn Hebraeg yn Armagedon.
Archwiliwch Datguddiad 16:16
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos