Roedd yr anghenfil welaist ti yn fyw ar un adeg, ond ddim bellach. Ond mae ar fin dod allan o’r pydew diwaelod i gael ei ddinistrio. Bydd pawb sy’n perthyn i’r ddaear (y rhai dydy eu henwau nhw ddim wedi’u cofnodi yn Llyfr y Bywyd ers i’r byd gael ei greu), yn syfrdan pan fyddan nhw’n gweld yr anghenfil oedd yn fyw ar un adeg, ond ddim mwyach, ac sy’n mynd i ddod yn ôl eto.