Yr Iesu a attebodd iddo, mai’r gorchymyn cyntaf [yw,] Clyw Israel, yr Arglwydd ein Duw vn Arglwydd yw.
Tithe a geri’r Arglwydd dy Dduw, â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl, ac â’th holl nerth, hwn yw’r gorchymmyn cyntaf.
A’r ail [sydd] yn gyffelyb iddo yntef: ceri dy gymmydog fel ti dy hun, nid oes orchymyn arall mwy nâ’r rhai hyn.