Ac efe a'i harweiniodd i fyny, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd cyfaneddol mewn eiliad o amser: a'r Diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a'u gogoniant hwynt: canys i mi y mae wedi ei throsglwyddo; ac i bwy bynag yr ewyllysiwyf, y rhoddaf hi. Os tydi, gan hyny, a addoli o fy mlaen i, eiddot ti fydd hi oll. A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho,, Y mae yn ysgrifenedig,
Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,
Ac efe yn unig a wasanaethi.