A bu, tra yr oedd efe yn un o'r dinasoedd, wele hefyd ddyn yn llawn o wahan‐glwyf: ac efe a welodd yr Iesu, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd âg ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhâu. Ac yntau a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd âg ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio: bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahan‐glwyf a aeth ymaith oddiwrtho.