1
Luc 6:38
Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards)
rhoddwch, a rhoddir i chwithau: mesur da, wedi ei wasgu ynghyd, wedi ei ysgwyd ynghyd, yn rhedeg allan drosodd, a roddant i'ch mynwes: canys â'r mesur y mesuroch, yr ad‐fesurir i chwithau.
Cymharu
Archwiliwch Luc 6:38
2
Luc 6:45
Y dyn da, allan o drysor da ei galon, a ddwg allan yr hyn sydd dda: a'r dyn drwg allan o'r drwg a ddwg allan yr hyn sydd ddrwg: canys allan o helaethrwydd calon y mae ei enau yn llefaru.
Archwiliwch Luc 6:45
3
Luc 6:35
Yn mhellach, Cerwch eich gelynion, a gwnewch dda; a rhoddwch fenthyg, heb anobeithio mewn dim: a'ch gwobr a fydd mawr, a Meibion y Goruchaf a fyddwch: canys cymwynasgar yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.
Archwiliwch Luc 6:35
4
Luc 6:36
Byddwch dosturiol, yr un modd ag y mae eich Tâd yn dosturiol.
Archwiliwch Luc 6:36
5
Luc 6:37
Ac na fernwch, ac ni'ch bernir ddim: ac na chondemniwch, ac ni'ch condemnir ddim: gollyngwch yn rhydd, a chwithau a ollyngir yn rhydd
Archwiliwch Luc 6:37
6
Luc 6:27-28
Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion: gwnewch dda i'r rhai a'ch cashânt: bendithiwch y rhai a'ch melldithiant: gweddiwch ar ran y rhai a ymddygant yn faleisus tu ag atoch
Archwiliwch Luc 6:27-28
7
Luc 6:31
Ac yn y modd yr ewyllysiech i ddynion i wneuthur i chwi, gwnewch chwithau hefyd yr un ffunud.
Archwiliwch Luc 6:31
8
Luc 6:29-30
i'r hwn a'th darawo ar y gern, cynyg y llall hefyd; ac oddiwrth yr hwn a gymmero ymaith dy wisg‐uchaf, na chadw yn ol dy is‐wisg chwaith. Dyro i bob un a geisio genyt; ac oddiwrth yr hwn a gymmero ymaith dy eiddo, na cheisia ef yn ol.
Archwiliwch Luc 6:29-30
9
Luc 6:43
Canys nid oes un pren da sydd yn dwyn ffrwyth gwael, nac ychwaith un pren gwael sydd yn dwyn ffrwyth da.
Archwiliwch Luc 6:43
10
Luc 6:44
Canys pob pren sydd yn cael ei adwaen wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddiar ddrain y maent yn casglu ffigys, ac nid ar lwyn mïeri y maent yn casglu yr addfed swp o rawnwin.
Archwiliwch Luc 6:44
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos