o hewydd paham ni thybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat; ond dywed mewn gair, a bydd iach fy ngwas. Canys dyn wyf finau hefyd yn cael fy ngosod dan awdurdod, a chenyf filwyr danaf; a dywedaf wrth hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac y mae yn dyfod; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac y mae yn ei wneuthur. A phan glybu yr Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drôdd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn ef, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo, yn yr Israel.