1
1 Brenhinoedd 18:37
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Ateb fi, O ARGLWYDD, ateb fi, er mwyn i'r bobl hyn wybod mai tydi, O ARGLWYDD, sydd Dduw, ac mai ti sydd yn troi eu calon yn ôl drachefn.”
Cymharu
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:37
2
1 Brenhinoedd 18:36
Pan ddaeth awr offrymu'r hwyroffrwm, nesaodd y proffwyd Elias a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, pâr wybod heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau'n was iti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum hyn i gyd.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:36
3
1 Brenhinoedd 18:21
Pan ddaeth Elias at yr holl bobl, gofynnodd, “Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl? Os yr ARGLWYDD sydd Dduw, dilynwch ef; ac os Baal, dilynwch hwnnw.” Ond nid atebodd y bobl air iddo.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:21
4
1 Brenhinoedd 18:38
Ar hynny disgynnodd tân yr ARGLWYDD ac ysu'r poethoffrwm, y coed, y cerrig, a'r llwch, a lleibio'r dŵr oedd yn y ffos.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:38
5
1 Brenhinoedd 18:39
Pan welsant, syrthiodd yr holl bobl ar eu hwyneb a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd Dduw! Yr ARGLWYDD sydd Dduw!”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:39
6
1 Brenhinoedd 18:44
A'r seithfed tro dywedodd y llanc, “Mae yna gwmwl bychan fel cledr llaw yn codi o'r môr.” Yna dywedodd Elias wrtho, “Dos, dywed wrth Ahab, ‘Gwna dy gerbyd yn barod a dos, rhag i'r glaw dy rwystro.’ ”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:44
7
1 Brenhinoedd 18:46
Daeth llaw yr ARGLWYDD ar Elias, tynhaodd yntau rwymyn am ei lwynau, a rhedodd o flaen Ahab hyd at y fynedfa i Jesreel.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:46
8
1 Brenhinoedd 18:41
Dywedodd Elias wrth Ahab, “Dos yn ôl, cymer fwyd a diod, oherwydd y mae sŵn glaw.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:41
9
1 Brenhinoedd 18:43
Yna dywedodd wrth ei lanc, “Dos di i fyny ac edrych tua'r môr.” Ac wedi iddo fynd ac edrych dywedodd, “Nid oes dim i'w weld.” A saith waith y dywedodd wrtho, “Dos eto.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:43
10
1 Brenhinoedd 18:30
Yna dywedodd Elias wrth yr holl bobl, “Dewch yn nes ataf”; a daeth yr holl bobl ato. Trwsiodd yntau allor yr ARGLWYDD a oedd wedi ei malurio
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:30
11
1 Brenhinoedd 18:24
Yna galwch chwi ar eich duw chwi, a galwaf finnau ar yr ARGLWYDD, a'r duw a etyb drwy dân fydd Dduw.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:24
12
1 Brenhinoedd 18:31
a chymerodd ddeuddeg carreg, yn ôl nifer llwythau meibion Jacob (yr un y daeth gair yr ARGLWYDD ato yn dweud, “Israel fydd dy enw”).
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:31
13
1 Brenhinoedd 18:27
Erbyn hanner dydd yr oedd Elias yn eu gwatwar ac yn dweud, “Galwch yn uwch, oherwydd duw ydyw; hwyrach ei fod yn synfyfyrio, neu wedi troi o'r neilltu, neu wedi mynd ar daith; neu efallai ei fod yn cysgu a bod yn rhaid ei ddeffro.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:27
14
1 Brenhinoedd 18:32
Yna adeiladodd y cerrig yn allor yn enw'r ARGLWYDD, ac o gylch yr allor gwneud ffos ddigon mawr i gymryd dau fesur o had.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 18:32
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos