1
1 Brenhinoedd 3:9
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Felly rho i'th was galon ddeallus i farnu dy bobl, i ddirnad da a drwg; oherwydd pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn?”
Cymharu
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 3:9
2
1 Brenhinoedd 3:12
gwnaf yn ôl dy eiriau. Rhoddaf iti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o'th flaen, ac na chyfyd chwaith ar dy ôl.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 3:12
3
1 Brenhinoedd 3:11
a dywedodd Duw wrtho, “Oherwydd iti ofyn hyn, ac nid gofyn i ti dy hun flynyddoedd lawer, na chyfoeth, nac einioes dy elynion, ond gofyn deall wrth wrando achos
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 3:11
4
1 Brenhinoedd 3:13
Rhoddaf hefyd iti yr hyn nis gofynnaist, sef cyfoeth a gogoniant, fel na bydd dy fath ymysg brenhinoedd, dy holl ddyddiau di.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 3:13
5
1 Brenhinoedd 3:14
Ac os bydd iti rodio yn fy ffyrdd, a chadw fy neddfau a'm gorchmynion, fel y rhodiodd dy dad Dafydd, estynnaf dy ddyddiau hefyd.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 3:14
6
1 Brenhinoedd 3:5
Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon yn Gibeon mewn breuddwyd liw nos; a dywedodd DUW, “Gofyn beth bynnag a fynni gennyf.”
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 3:5
7
1 Brenhinoedd 3:7
Yn awr, O ARGLWYDD fy Nuw, gwnaethost dy was yn frenin yn lle fy nhad Dafydd, a minnau'n llanc ifanc, dibrofiad.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 3:7
8
1 Brenhinoedd 3:10
Bu'n dderbyniol yng ngolwg yr ARGLWYDD i Solomon ofyn y peth hwn
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 3:10
9
1 Brenhinoedd 3:6
Dywedodd Solomon, “Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, dy was, am iddo rodio gyda thi mewn gwirionedd a chyfiawnder a chywirdeb calon. Ie, parheaist yn ffyddlon iawn iddo, a rhoi iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc heddiw.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 3:6
10
1 Brenhinoedd 3:8
Ac y mae dy was yng nghanol dy ddewis bobl, sy'n rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif.
Archwiliwch 1 Brenhinoedd 3:8
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos