oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn dod â chwi i wlad dda, gwlad ac ynddi ffrydiau dŵr, ffynhonnau, a chronfeydd yn tarddu yn y dyffrynnoedd ac ar y mynyddoedd; gwlad lle mae gwenith a haidd, gwinwydd, ffigys a phomgranadau, olewydd a mêl; gwlad lle cewch fwyta heb brinder, a lle ni bydd arnoch angen am ddim; gwlad y mae ei cherrig yn haearn a lle y byddwch yn cloddio copr o'i mynyddoedd.