Deuteronomium 8:12-14
Deuteronomium 8:12-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan fydd gynnoch chi fwy na digon i’w fwyta, tai braf i fyw ynddyn nhw, mwy o wartheg, defaid a geifr, digon o arian ac aur – yn wir, digon o bopeth – gwyliwch rhag i chi droi’n rhy hunanfodlon, ac anghofio’r ARGLWYDD eich Duw, wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi’n gaethweision.
Deuteronomium 8:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan fyddwch wedi bwyta a chael digon, ac adeiladu tai braf i fyw ynddynt, a phan fydd eich gwartheg a'ch defaid yn cynyddu, a digon o arian ac aur gennych, a'ch holl eiddo yn cynyddu, yna peidiwch ag ymffrostio ac anghofio'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth â chwi allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.
Deuteronomium 8:12-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Rhag wedi i ti fwyta, a’th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt; A lluosogi o’th wartheg a’th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o’r hyn oll y sydd gennyt: Yna ymddyrchafu o’th galon, ac anghofio ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, (yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed