Deuteronomium 8
8
1Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw; fel y byddoch fyw, ac y cynyddoch, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr Arglwydd wrth eich tadau trwy lw. 2A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy’r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit. 3Ac efe a’th ddarostyngodd, ac a oddefodd i ti newynu, ac a’th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnâi efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a’r sydd yn dyfod allan o enau yr Arglwydd y bydd byw dyn. 4Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a’th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn. 5Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun. 6A chadw orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd, ac i’w ofni ef. 7Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd; 8Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mêl; 9Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haearn, ac o’i mynyddoedd y cloddi bres. 10Pan fwyteych, a’th ddigoni; yna y bendithi yr Arglwydd dy Dduw am y wlad dda a roddes efe i ti. 11Cadw arnat rhag anghofio yr Arglwydd dy Dduw, heb gadw ei orchmynion a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw: 12Rhag wedi i ti fwyta, a’th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt; 13A lluosogi o’th wartheg a’th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o’r hyn oll y sydd gennyt: 14Yna ymddyrchafu o’th galon, ac anghofio ohonot yr Arglwydd dy Dduw, (yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; 15Yr hwn a’th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirff tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr; 16Yr hwn a’th fwydodd di yn yr anialwch â manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,) 17A dywedyd ohonot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn. 18Ond cofia yr Arglwydd dy Dduw: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhao efe ei gyfamod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn. 19Ac os gan anghofio yr anghofi yr Arglwydd dy Dduw, a dilyn duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddiw, gan ddifetha y’ch difethir. 20Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr Arglwydd ar eu difetha o’ch blaen chwi, felly y difethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw.
Dewis Presennol:
Deuteronomium 8: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.