1
Y Pregethwr 1:18
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Oherwydd y mae cynyddu doethineb yn cynyddu gofid, ac ychwanegu gwybodaeth yn ychwanegu poen.
Cymharu
Archwiliwch Y Pregethwr 1:18
2
Y Pregethwr 1:9
Yr hyn a fu a fydd, a'r hyn a wnaed a wneir; nid oes dim newydd dan yr haul.
Archwiliwch Y Pregethwr 1:9
3
Y Pregethwr 1:8
Y mae pob peth mor flinderus fel na all neb ei fynegi; ni ddigonir y llygad trwy edrych, na'r glust trwy glywed.
Archwiliwch Y Pregethwr 1:8
4
Y Pregethwr 1:2-3
“Gwagedd llwyr,” meddai'r Pregethwr, “gwagedd llwyr yw'r cyfan.” Pa elw sydd i neb yn ei holl lafur, wrth iddo ymlafnio dan yr haul?
Archwiliwch Y Pregethwr 1:2-3
5
Y Pregethwr 1:14
Gwelais yr holl bethau a ddigwyddodd dan yr haul, ac yn wir nid yw'r cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt.
Archwiliwch Y Pregethwr 1:14
6
Y Pregethwr 1:4
Y mae cenhedlaeth yn mynd, ac un arall yn dod, ond y mae'r ddaear yn aros am byth.
Archwiliwch Y Pregethwr 1:4
7
Y Pregethwr 1:11
Ni chofir am y rhai a fu, nac ychwaith am y rhai a ddaw ar eu hôl; ni chofir amdanynt gan y rhai a fydd yn eu dilyn.
Archwiliwch Y Pregethwr 1:11
8
Y Pregethwr 1:17
Rhoddais fy mryd ar ddeall doethineb a gwybodaeth, ynfydrwydd a ffolineb, a chanfûm nad oedd hyn ond ymlid gwynt.
Archwiliwch Y Pregethwr 1:17
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos