1
Y Pregethwr 2:26
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Yn wir, y mae Duw yn rhoi doethineb, deall a llawenydd i'r sawl sy'n dda yn ei olwg, ond i'r un sy'n pechu fe roddir y dasg o gasglu a chronni ar gyfer yr un sy'n dda yng ngolwg Duw. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
Cymharu
Archwiliwch Y Pregethwr 2:26
2
Y Pregethwr 2:24-25
Nid oes dim yn well i neb na bwyta ac yfed a chael mwynhad o'i lafur. Yn wir gwelais fod hyn yn dod oddi wrth Dduw; oherwydd pwy all fwyta a chael mwynhad hebddo ef?
Archwiliwch Y Pregethwr 2:24-25
3
Y Pregethwr 2:11
Yna, pan drois i edrych ar y cyfan a wnaeth fy nwylo a'r llafur yr ymdrechais i'w gyflawni, gwelwn nad oedd y cyfan ond gwagedd ac ymlid gwynt, heb unrhyw elw dan yr haul.
Archwiliwch Y Pregethwr 2:11
4
Y Pregethwr 2:10
Nid oeddwn yn cadw draw oddi wrth unrhyw beth a chwenychai fy llygaid, nac yn troi ymaith oddi wrth unrhyw bleser. Yn wir yr oeddwn yn cael llawenydd yn fy holl lafur, a hyn oedd fy nhâl am fy holl waith.
Archwiliwch Y Pregethwr 2:10
5
Y Pregethwr 2:13
Yna gwelais fod doethineb yn werthfawrocach nag ynfydrwydd, fel y mae goleuni yn werthfawrocach na thywyllwch.
Archwiliwch Y Pregethwr 2:13
6
Y Pregethwr 2:14
Y mae'r doeth â'i lygaid yn ei ben, ond y mae'r ffôl yn rhodio yn y tywyllwch; eto canfûm mai'r un peth yw tynged y ddau.
Archwiliwch Y Pregethwr 2:14
7
Y Pregethwr 2:21
Oherwydd y mae'r sawl a lafuriodd yn ddoeth a deallus a chyda medr yn gadael ei eiddo i un na lafuriodd amdano. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn flinder mawr.
Archwiliwch Y Pregethwr 2:21
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos