1
Y Pregethwr 4:9-10
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Y mae dau yn well nag un, oherwydd y maent yn cael tâl da am eu llafur; os bydd y naill yn syrthio, y mae'r llall yn gallu ei godi, ond gwae'r un sydd ar ei ben ei hun; pan yw'n syrthio, nid oes ganddo neb i'w godi.
Cymharu
Archwiliwch Y Pregethwr 4:9-10
2
Y Pregethwr 4:12
Er y gellir trechu un, y mae dau yn gallu gwrthsefyll. Ni ellir torri rhaff deircainc ar frys.
Archwiliwch Y Pregethwr 4:12
3
Y Pregethwr 4:11
Hefyd os bydd dau yn gorwedd gyda'i gilydd, y mae'r naill yn cadw'r llall yn gynnes; ond sut y gall un gadw'n gynnes ar ei ben ei hun?
Archwiliwch Y Pregethwr 4:11
4
Y Pregethwr 4:6
Gwell yw llond un llaw mewn llonyddwch na llond dwy law mewn gofid ac ymlid gwynt.
Archwiliwch Y Pregethwr 4:6
5
Y Pregethwr 4:4
Hefyd sylwais ar yr holl lafur a medr mewn gwaith, ei fod yn codi o genfigen rhwng rhywun a'i gymydog. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn ymlid gwynt.
Archwiliwch Y Pregethwr 4:4
6
Y Pregethwr 4:13
Y mae bachgen tlawd, ond doeth, yn well na brenin hen a ffôl, nad yw bellach yn gwybod sut i dderbyn cyngor.
Archwiliwch Y Pregethwr 4:13
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos