1
Y Pregethwr 5:2
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Paid â bod yn fyrbwyll â'th enau na bod ar frys o flaen Duw. Y mae Duw yn y nefoedd, ac yr wyt ti ar y ddaear, felly bydd yn fyr dy eiriau.
Cymharu
Archwiliwch Y Pregethwr 5:2
2
Y Pregethwr 5:19
Yn wir y mae pob un y rhoddodd Duw iddo gyfoeth a meddiannau a'r gallu i'w mwynhau, i dderbyn ei dynged, a bod yn llawen yn ei lafur; rhodd Duw yw hyn.
Archwiliwch Y Pregethwr 5:19
3
Y Pregethwr 5:10
Ni ddigonir yr ariangar ag arian, na'r un sy'n caru cyfoeth ag elw. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
Archwiliwch Y Pregethwr 5:10
4
Y Pregethwr 5:1
Gwylia dy droed pan fyddi'n mynd i dŷ Dduw. Y mae'n well nesáu i wrando nag offrymu aberth ffyliaid, oherwydd nid ydynt hwy'n gwybod eu bod yn gwneud drwg.
Archwiliwch Y Pregethwr 5:1
5
Y Pregethwr 5:4
Pan wnei adduned i Dduw, paid ag oedi ei chyflawni, oherwydd nid yw ef yn ymhyfrydu mewn ffyliaid. Cyflawna di'r hyn yr wyt wedi ei addunedu.
Archwiliwch Y Pregethwr 5:4
6
Y Pregethwr 5:5
Y mae'n well iti beidio ag addunedu na pheidio â chyflawni'r hyn yr wyt wedi ei addunedu.
Archwiliwch Y Pregethwr 5:5
7
Y Pregethwr 5:12
Y mae cwsg y gweithiwr yn felys, boed wedi bwyta ychydig neu lawer; ond y mae digonedd y cyfoethog yn ei rwystro rhag cysgu'n dawel.
Archwiliwch Y Pregethwr 5:12
8
Y Pregethwr 5:15
Fel y daeth allan o groth ei fam, bydd yn dychwelyd yno yn noeth, yn union fel y daeth; ac ni chaiff ddim am ei lafur i'w gymryd gydag ef.
Archwiliwch Y Pregethwr 5:15
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos