1
Y Pregethwr 7:9
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Paid â rhuthro i ddangos dig, oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros.
Cymharu
Archwiliwch Y Pregethwr 7:9
2
Y Pregethwr 7:14
Bydd lawen pan yw'n dda arnat, ond yn amser adfyd ystyria hyn: Duw a wnaeth y naill beth a'r llall, fel na all neb ganfod beth a fydd yn dilyn.
Archwiliwch Y Pregethwr 7:14
3
Y Pregethwr 7:8
Y mae diwedd peth yn well na'i ddechrau, ac amynedd yn well nag ymffrost.
Archwiliwch Y Pregethwr 7:8
4
Y Pregethwr 7:20
Yn wir, nid oes neb cyfiawn ar y ddaear sydd bob amser yn gwneud daioni, heb bechu.
Archwiliwch Y Pregethwr 7:20
5
Y Pregethwr 7:12
Y mae doethineb yn gystal amddiffyn ag arian; mantais deall yw bod doethineb yn rhoi bywyd i'w pherchennog.
Archwiliwch Y Pregethwr 7:12
6
Y Pregethwr 7:1
Y mae enw da yn well nag ennaint gwerthfawr, a dydd marw yn well na dydd geni.
Archwiliwch Y Pregethwr 7:1
7
Y Pregethwr 7:5
Y mae'n well gwrando ar gerydd y doeth na gwrando ar gân ffyliaid.
Archwiliwch Y Pregethwr 7:5
8
Y Pregethwr 7:2
Y mae'n well mynd i dŷ galar na mynd i dŷ gwledd; oherwydd marw yw tynged pawb, a dylai'r byw ystyried hyn.
Archwiliwch Y Pregethwr 7:2
9
Y Pregethwr 7:4
Y mae calon y doethion yn nhŷ galar, ond calon y ffyliaid yn nhŷ pleser.
Archwiliwch Y Pregethwr 7:4
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos