1
Y Pregethwr 8:15
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Yr wyf yn canmol llawenydd, gan mai'r unig beth da i bawb dan yr haul yw bwyta ac yfed a bod yn llawen; oherwydd fe erys hyn gyda hwy pan y maent yn llafurio yn ystod y dyddiau a rydd Duw iddynt dan yr haul.
Cymharu
Archwiliwch Y Pregethwr 8:15
2
Y Pregethwr 8:12
Gall pechadur wneud drwg ganwaith a byw'n hir; eto gwn y bydd daioni i'r rhai sy'n ofni Duw ac yn ei barchu.
Archwiliwch Y Pregethwr 8:12
3
Y Pregethwr 8:6
Yn wir, y mae amser a ffordd i bob gorchwyl, er bod trueni pobl yn drwm arnynt.
Archwiliwch Y Pregethwr 8:6
4
Y Pregethwr 8:8
Ni all neb reoli'r gwynt, ac nid oes gan neb awdurdod dros ddydd marwolaeth. Nid oes bwrw arfau mewn rhyfel, ac ni all drygioni waredu ei feistr.
Archwiliwch Y Pregethwr 8:8
5
Y Pregethwr 8:11
Gan na roddir dedfryd fuan ar weithred ddrwg, y mae calonnau pobl yn ymroi'n llwyr i ddrygioni.
Archwiliwch Y Pregethwr 8:11
6
Y Pregethwr 8:14
Dyma'r gwagedd a wneir ar y ddaear: pobl gyfiawn yn derbyn fel pe byddent wedi gweithredu'n anghyfiawn, a phobl ddrwg yn derbyn fel pe byddent wedi gweithredu'n gyfiawn. Dywedais fod hyn hefyd yn wagedd.
Archwiliwch Y Pregethwr 8:14
7
Y Pregethwr 8:7
Nid oes neb sy'n gwybod beth a fydd; a phwy a all fynegi beth a ddigwydd?
Archwiliwch Y Pregethwr 8:7
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos