1
Effesiaid 5:1-2
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Byddwch, felly, yn efelychwyr Duw, fel plant annwyl iddo, gan fyw mewn cariad, yn union fel y carodd Crist ni, a'i roi ei hun trosom, yn offrwm ac aberth i Dduw, o arogl pêr.
Cymharu
Archwiliwch Effesiaid 5:1-2
2
Effesiaid 5:15-16
Felly, gwyliwch eich ymddygiad yn ofalus, gan fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth. Daliwch ar eich cyfle, oherwydd y mae'r dyddiau'n ddrwg.
Archwiliwch Effesiaid 5:15-16
3
Effesiaid 5:18-20
Peidiwch â meddwi ar win (afradlonedd yw hynny), ond llanwer chwi â'r Ysbryd. Cyfarchwch eich gilydd â salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol; canwch a phynciwch o'ch calon i'r Arglwydd. Diolchwch bob amser am bob dim i Dduw y Tad yn enw ein Harglwydd Iesu Grist
Archwiliwch Effesiaid 5:18-20
4
Effesiaid 5:17
Am hynny, peidiwch â bod yn ffôl, ond deallwch beth yw ewyllys yr Arglwydd.
Archwiliwch Effesiaid 5:17
5
Effesiaid 5:25
Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau'r eglwys a'i roi ei hun drosti
Archwiliwch Effesiaid 5:25
6
Effesiaid 5:8
tywyllwch oeddech chwi gynt, ond yn awr goleuni ydych yn yr Arglwydd. Byddwch fyw fel plant goleuni
Archwiliwch Effesiaid 5:8
7
Effesiaid 5:21
a byddwch ddarostyngedig i'ch gilydd, o barchedig ofn tuag at Grist.
Archwiliwch Effesiaid 5:21
8
Effesiaid 5:22
Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr fel i'r Arglwydd
Archwiliwch Effesiaid 5:22
9
Effesiaid 5:33
Ond yr ydych chwithau bob un i garu ei wraig fel ef ei hun; ac y mae'r wraig hithau i barchu ei gŵr.
Archwiliwch Effesiaid 5:33
10
Effesiaid 5:31
Yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig; a bydd y ddau yn un cnawd.”
Archwiliwch Effesiaid 5:31
11
Effesiaid 5:11
Gwrthodwch ymgysylltu â gweithredoedd diffrwyth y tywyllwch, ond yn hytrach dadlennwch eu drygioni.
Archwiliwch Effesiaid 5:11
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos