1
Eseia 45:3
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Rhof iti drysorau o leoedd tywyll, wedi eu cronni mewn mannau dirgel, er mwyn iti wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, Duw Israel, sy'n dy gyfarch wrth dy enw.
Cymharu
Archwiliwch Eseia 45:3
2
Eseia 45:2
“Mi af o'th flaen di i lefelu'r mynyddoedd; torraf y dorau pres, a dryllio'r barrau haearn.
Archwiliwch Eseia 45:2
3
Eseia 45:5-6
Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall; ar wahân i mi nid oes Duw. Gwregysais di, er na'm hadwaenit, er mwyn iddynt wybod, o godiad haul hyd ei fachlud, nad oes neb ond myfi. Myfi yw'r ARGLWYDD, ac nid oes arall
Archwiliwch Eseia 45:5-6
4
Eseia 45:7
yn llunio goleuni ac yn creu tywyllwch, yn peri llwyddiant ac yn achosi methiant; myfi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cyfan.
Archwiliwch Eseia 45:7
5
Eseia 45:22
Chwi, holl gyrrau'r ddaear, edrychwch ataf i'ch gwaredu, canys myfi wyf Dduw, ac nid oes arall.
Archwiliwch Eseia 45:22
6
Eseia 45:1
Dyma a ddywed yr ARGLWYDD wrth Cyrus ei eneiniog, yr un y gafaelais yn ei law i ddarostwng cenhedloedd o'i flaen, i ddiarfogi brenhinoedd, i agor dorau o'i flaen, ac ni chaeir pyrth rhagddo
Archwiliwch Eseia 45:1
7
Eseia 45:23
Ar fy llw y tyngais; gwir a ddaeth allan o'm genau, gair na ddychwel: i mi bydd pob glin yn plygu a phob tafod yn tyngu.
Archwiliwch Eseia 45:23
8
Eseia 45:4
Er mwyn fy ngwas Jacob, a'm hetholedig Israel, gelwais di wrth dy enw, a'th gyfenwi, er na'm hadwaenit.
Archwiliwch Eseia 45:4
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos