“Os dychweli, Israel,” medd yr ARGLWYDD, “os dychweli ataf fi,
a rhoi heibio dy ffieidd-dra o'm gŵydd, a pheidio â simsanu,
ac os tyngi mewn gwirionedd, mewn barn a chyfiawnder, ‘Byw yw yr ARGLWYDD’,
yna fe ymfendithia'r cenhedloedd ynddo, ac ymglodfori ynddo.”