“Y mae ef yn meddiannu'r cryf trwy ei nerth,
a phan gyfyd, nid oes gan neb hyder yn ei einioes.
Gwna iddynt gredu y cynhelir hwy;
eto y mae ei lygaid ar eu ffyrdd.
Dyrchefir hwy dros dro, yna diflannant;
gwywant a chiliant fel hocys;
gwywant fel brig y dywysen.