Aeth Cora fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, gyda'r Reubeniaid Dathan ac Abiram, feibion Eliab, ac On fab Peleth, i gynnull dynion i godi yn erbyn Moses; gyda hwy yr oedd dau gant a hanner o bobl Israel, a'r rheini'n wŷr adnabyddus o blith penaethiaid ac arweinwyr y cynulliad.