1
Y Salmau 34:18
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Y mae'r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galon ac yn gwaredu'r briwedig o ysbryd.
Cymharu
Archwiliwch Y Salmau 34:18
2
Y Salmau 34:4
Ceisiais yr ARGLWYDD, ac atebodd fi a'm gwaredu o'm holl ofnau.
Archwiliwch Y Salmau 34:4
3
Y Salmau 34:19
Llawer o adfyd a gaiff y cyfiawn, ond gwareda'r ARGLWYDD ef o'r cyfan.
Archwiliwch Y Salmau 34:19
4
Y Salmau 34:8
Profwch, a gwelwch mai da yw'r ARGLWYDD. Gwyn ei fyd y sawl sy'n llochesu ynddo.
Archwiliwch Y Salmau 34:8
5
Y Salmau 34:5
Y mae'r rhai sy'n edrych arno'n gloywi, ac ni ddaw cywilydd i'w hwynebau.
Archwiliwch Y Salmau 34:5
6
Y Salmau 34:17
Pan waedda'r cyfiawn am gymorth, fe glyw'r ARGLWYDD a'u gwaredu o'u holl gyfyngderau.
Archwiliwch Y Salmau 34:17
7
Y Salmau 34:7
Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni, ac y mae'n eu gwaredu.
Archwiliwch Y Salmau 34:7
8
Y Salmau 34:14
Tro oddi wrth ddrygioni a gwna dda, ceisia heddwch a'i ddilyn.
Archwiliwch Y Salmau 34:14
9
Y Salmau 34:13
Cadw dy dafod rhag drygioni a'th wefusau rhag llefaru celwydd.
Archwiliwch Y Salmau 34:13
10
Y Salmau 34:15
Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn, a'i glustiau'n agored i'w cri.
Archwiliwch Y Salmau 34:15
11
Y Salmau 34:3
Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi, a dyrchafwn ei enw gyda'n gilydd.
Archwiliwch Y Salmau 34:3
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos