Y Salmau 34
34
I Ddafydd, pan newidiodd ei wedd o flaen Abimelech, a chael ei yrru ymaith a mynd.
1Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser;
bydd ei foliant yn wastad yn fy ngenau.
2Yn yr ARGLWYDD yr ymhyfrydaf;
bydded i'r gostyngedig glywed a llawenychu.
3Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi,
a dyrchafwn ei enw gyda'n gilydd.
4Ceisiais yr ARGLWYDD, ac atebodd fi
a'm gwaredu o'm holl ofnau.
5Y mae'r rhai sy'n edrych arno'n gloywi,
ac ni ddaw cywilydd i'w hwynebau.#34:5 Felly Fersiynau a rhai llawysgrifau Hebraeg. TM, Edrychwch tuag ato a gloywi, peidiwch â chywilyddio.
6Dyma un isel a waeddodd, a'r ARGLWYDD yn ei glywed
ac yn ei waredu o'i holl gyfyngderau.
7Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni,
ac y mae'n eu gwaredu.
8Profwch, a gwelwch mai da yw'r ARGLWYDD.
Gwyn ei fyd y sawl sy'n llochesu ynddo.
9Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef,
oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a'i hofna.
10Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu,
ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da.
11Dewch, blant, gwrandewch arnaf,
dysgaf ichwi ofn yr ARGLWYDD.
12Pwy ohonoch sy'n dymuno bywyd
ac a garai fyw'n hir i fwynhau daioni?
13Cadw dy dafod rhag drygioni
a'th wefusau rhag llefaru celwydd.
14Tro oddi wrth ddrygioni a gwna dda,
ceisia heddwch a'i ddilyn.
15Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn,
a'i glustiau'n agored i'w cri.
16Y mae wyneb yr ARGLWYDD yn erbyn y rhai sy'n gwneud drwg,
i ddileu eu coffa o'r ddaear.
17Pan waedda'r cyfiawn#34:17 Felly Fersiynau. Hebraeg heb cyfiawn. am gymorth, fe glyw'r ARGLWYDD
a'u gwaredu o'u holl gyfyngderau.
18Y mae'r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galon
ac yn gwaredu'r briwedig o ysbryd.
19Llawer o adfyd a gaiff y cyfiawn,
ond gwareda'r ARGLWYDD ef o'r cyfan.
20Ceidw ei holl esgyrn,
ac ni thorrir yr un ohonynt.
21Y mae adfyd yn lladd y drygionus,
a chosbir y rhai sy'n casáu'r cyfiawn.
22Y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu ei weision,
ac ni chosbir y rhai sy'n llochesu ynddo.
Dewis Presennol:
Y Salmau 34: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004