Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 33

33
1Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, chwi rai cyfiawn;
i'r rhai uniawn gweddus yw moliant.
2Molwch yr ARGLWYDD â'r delyn,
canwch salmau iddo â'r offeryn dectant;
3canwch iddo gân newydd,
tynnwch y tannau'n dda, rhowch floedd.
4Oherwydd gwir yw gair yr ARGLWYDD,
ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd.
5Y mae'n caru cyfiawnder a barn;
y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD.
6Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed y nefoedd,
a'i holl lu trwy anadl ei enau.
7Casglodd y môr fel dŵr mewn potel,
a rhoi'r dyfnderoedd mewn ystordai.
8Bydded i'r holl ddaear ofni'r ARGLWYDD,
ac i holl drigolion y byd arswydo rhagddo.
9Oherwydd llefarodd ef, ac felly y bu;
gorchmynnodd ef, a dyna a safodd.
10Gwna'r ARGLWYDD gyngor y cenhedloedd yn ddim,
a difetha gynlluniau pobloedd.
11Ond saif cyngor yr ARGLWYDD am byth,
a'i gynlluniau dros yr holl genedlaethau.
12Gwyn ei byd y genedl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddi,
y bobl a ddewisodd yn eiddo iddo'i hun.
13Y mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd,
ac yn gweld pawb oll;
14o'r lle y triga y mae'n gwylio
holl drigolion y ddaear.
15Ef sy'n llunio meddwl pob un ohonynt,
y mae'n deall popeth a wnânt.
16Nid gan fyddin gref y gwaredir brenin,
ac nid â nerth mawr yr achubir rhyfelwr.
17Ofer ymddiried mewn march am waredigaeth;
er ei holl gryfder ni all roi ymwared.
18Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y rhai a'i hofna,
ar y rhai sy'n disgwyl wrth ei ffyddlondeb,
19i'w gwaredu rhag marwolaeth
a'u cadw'n fyw yng nghanol newyn.
20Yr ydym yn disgwyl am yr ARGLWYDD;
ef yw ein cymorth a'n tarian.
21Y mae ein calon yn llawenychu ynddo
am inni ymddiried yn ei enw sanctaidd.
22O ARGLWYDD, dangos dy ffyddlondeb tuag atom,
fel yr ydym wedi gobeithio ynot.

Dewis Presennol:

Y Salmau 33: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda