Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 32

32
I Ddafydd. Mascîl.
1Gwyn ei fyd y sawl y maddeuwyd ei drosedd,
ac y cuddiwyd ei bechod.
2Gwyn ei fyd y sawl nad yw'r ARGLWYDD
yn cyfrif ei fai yn ei erbyn,
ac nad oes dichell yn ei ysbryd.
3Tra oeddwn yn ymatal, yr oedd fy esgyrn yn darfod,
a minnau'n cwyno ar hyd y dydd.
4Yr oedd dy law yn drwm arnaf ddydd a nos;
sychwyd fy nerth fel gan wres haf.
Sela
5Yna, bu imi gydnabod fy mhechod wrthyt,
a pheidio â chuddio fy nrygioni;
dywedais, “Yr wyf yn cyffesu fy mhechodau i'r ARGLWYDD”;
a bu i tithau faddau euogrwydd fy mhechod.
Sela
6Am hynny fe weddïa pob un ffyddlon arnat ti
yn nydd cyfyngder#32:6 Tebygol. Hebraeg yn aneglur.,
a phan ddaw llifeiriant o ddyfroedd mawr,
ni fyddant yn cyrraedd ato ef.
7Yr wyt ti'n gysgod i mi; cedwi fi rhag cyfyngder;
amgylchi fi â chaneuon gwaredigaeth.
Sela
8Hyfforddaf di a'th ddysgu yn y ffordd a gymeri;
fe gadwaf fy ngolwg arnat.
9Paid#32:9 Felly rhai llawysgrifau. TM, Peidiwch. â bod fel march neu ful direswm
y mae'n rhaid wrth ffrwyn a genfa i'w dofi cyn y dônt atat.
10Daw poenau lawer i'r drygionus;
ond am y sawl sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD,
bydd ffyddlondeb yn ei amgylchu.
11Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, a gorfoleddwch, rai cyfiawn;
canwch yn uchel, pob un o galon gywir.

Dewis Presennol:

Y Salmau 32: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda