1
Datguddiad 22:13
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Myfi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a'r olaf, y dechrau a'r diwedd.”
Cymharu
Archwiliwch Datguddiad 22:13
2
Datguddiad 22:12
“Wele, yr wyf yn dod yn fuan, a'm gwobr gyda mi i'w rhoi i bob un yn ôl ei weithredoedd.
Archwiliwch Datguddiad 22:12
3
Datguddiad 22:17
Y mae'r Ysbryd a'r briodferch yn dweud, “Tyrd”; a'r sawl sy'n clywed, dyweded yntau, “Tyrd.” A'r sawl sy'n sychedig, deued ymlaen, a'r sawl sydd yn ei ddymuno, derbynied ddŵr y bywyd yn rhodd.
Archwiliwch Datguddiad 22:17
4
Datguddiad 22:14
Gwyn eu byd y rhai sy'n golchi eu mentyll er mwyn iddynt gael hawl ar bren y bywyd a mynediad trwy'r pyrth i'r ddinas.
Archwiliwch Datguddiad 22:14
5
Datguddiad 22:7
Ac wele, yr wyf yn dod yn fuan. Gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn.”
Archwiliwch Datguddiad 22:7
6
Datguddiad 22:5
Ni bydd nos mwyach, ac ni bydd arnynt angen na golau lamp na golau haul, oherwydd bydd yr Arglwydd Dduw yn eu goleuo, a byddant hwy'n teyrnasu byth bythoedd.
Archwiliwch Datguddiad 22:5
7
Datguddiad 22:20-21
Y mae'r sawl sy'n tystiolaethu i'r pethau hyn yn dweud, “Yn wir, yr wyf yn dod yn fuan.” Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu! Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda phawb!
Archwiliwch Datguddiad 22:20-21
8
Datguddiad 22:18-19
Yr wyf fi'n rhybuddio pob un sy'n clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: os ychwanega unrhyw un ddim atynt, fe ychwanega Duw iddo yntau y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn. Ac os tyn unrhyw un ddim allan o eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, fe dynn Duw ei ran yntau allan o bren y bywyd, ac o'r ddinas sanctaidd, y pethau yr ysgrifennwyd amdanynt yn y llyfr hwn.
Archwiliwch Datguddiad 22:18-19
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos