1
Datguddiad 21:4
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Fe sych bob deigryn o'u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae'r pethau cyntaf wedi mynd heibio.”
Cymharu
Archwiliwch Datguddiad 21:4
2
Datguddiad 21:5
Yna dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd, “Wele, yr wyf yn gwneud pob peth yn newydd.” Dywedodd hefyd, “Ysgrifenna, oherwydd dyma eiriau ffyddlon a gwir.”
Archwiliwch Datguddiad 21:5
3
Datguddiad 21:3
Clywais lais uchel o'r orsedd yn dweud, “Wele, y mae preswylfa Duw gyda'r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt.
Archwiliwch Datguddiad 21:3
4
Datguddiad 21:6
A dywedodd wrthyf, “Y mae'r cwbl ar ben! Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd. Rhoddaf fi i'r sychedig ddiod yn rhodd o ffynnon dŵr y bywyd.
Archwiliwch Datguddiad 21:6
5
Datguddiad 21:7
Caiff y rhai sy'n gorchfygu etifeddu'r pethau hyn; byddaf yn Dduw iddynt, a byddant hwythau'n blant i mi.
Archwiliwch Datguddiad 21:7
6
Datguddiad 21:8
Ond y llwfr, y di-gred, y ffiaidd, y llofruddion, y puteinwyr, y dewiniaid, yr eilunaddolwyr, a phawb celwyddog, eu rhan hwy fydd y llyn sy'n llosgi gan dân a brwmstan, hynny yw yr ail farwolaeth.”
Archwiliwch Datguddiad 21:8
7
Datguddiad 21:1
Yna gwelais nef newydd a daear newydd; oherwydd yr oedd y nef gyntaf a'r ddaear gyntaf wedi mynd heibio, ac nid oedd môr mwyach.
Archwiliwch Datguddiad 21:1
8
Datguddiad 21:2
A gwelais y ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, yn disgyn o'r nef oddi wrth Dduw, wedi ei pharatoi fel priodferch wedi ei thecáu i'w gŵr.
Archwiliwch Datguddiad 21:2
9
Datguddiad 21:23-24
Nid oes ar y ddinas angen na'r haul na'r lleuad i dywynnu arni, oherwydd gogoniant Duw sy'n ei goleuo, a'i lamp hi yw'r Oen. A bydd y cenhedloedd yn rhodio yn ei goleuni hi, a brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant i mewn iddi.
Archwiliwch Datguddiad 21:23-24
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos