Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 27

27
SALM XXVII
Dominus illuminatio.
Ffydd Dafydd tuag at Dduw, tra orfu arno fod allan o’r orsedd: a’i gysur i bawb yn eu blinder.
1Yr Arglwydd yw fy ngolau’ gyd,
a’m iechyd: rhag pwy’r ofnaf?
Yr Arglwydd yw nerth fo’es: am hyn,
rhag pwy doe ddychryn arnaf?
2Pan ddaeth rhai anfad, sef fy nghas,
o’m cwmpas er fy llyngcu,
Llithrasant a chwympasant hwy,
ni ddaethant mwy i fynu.
3Ni ddoe ofn ar fy nghalon gu,
pe cyrchai llu i’m herbyn,
Neu pe codai gâd y modd hwn,
mi ni wanffyddiwn ronyn.
4Un arch a erchais ar Dduw nâf,
a hynny a archaf etto:
Cael dyfod i dy’r Arglwydd glân,
a bod a’m trigfan ynddo.
I gael ymweled a’i Deml deg,
a hyfryd osteg ynthi
Holl ddyddiau f’einioes: sef wyf gaeth
o fawr hiraeth amdani.
5Cans y dydd drwg fo’m cudd efe
iw Babell neu ddirgelfa:
Iw breswylfod, fel mewn craig gref,
caf gantho ef orphwysfa.
6Bellach fo’m codir uwch fy nghâs,
sydd mewn galanas ymy:
Aberthaf, caraf, mola’r Ion
yn ffyddlon byth am hynny.
7Gwrando arnaf fy Arglwydd byw,
bryssia a chlyw fy oernad:
Trugarhâ wrthif, gwyl fy nghlwyf,
y pryd y galwyf arnad.
8Fel hyn mae ’nghalon o’m mewn i
yn holi ac yn atteb,
Ceisiwch fy wyneb ar bob tro:
fy Nuw rwy’n ceisio d’wyneb.
9Na chudd d’wyneb, na lys dy wâs,
fy mhorth a’m urddas fuost:
Duw fy iechyd na wrthod fi,
o paid a sorri’n rhydost.
10O gwrthyd fi fy nhâd a’m mam
a’m dinam gyfneseifiaid:
Gweddia’r Arglwydd, ef er hyn
o’i râs a derbyn f’enaid.
11Duw dysg i mi dy ffordd yn rhwydd,
oherwydd fy ngelynion,
Ac arwain fi o’th nawddol râd
yn wastad ar yr union.
12Ac na ddyro fi, er dy râs,
wrth fodd yr atcas elyn,
Cans ceisiodd fy’nghaseion mau
dystion gau yn fy erbyn.
13Oni bai gredu honof fi,
bum wrth fron torri ’nghalon,
Y cawn i weld da Duw’n rhâd
o fewn gwlâd y rhai bywion.
14Disgwyl di ar yr Arglwydd da,
ymwrola dy galon:
Ef a rydd nerth i’th galon di,
os iddo credi’n ffyddlon.

Dewis Presennol:

Y Salmau 27: SC

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda