Salmau 108
108
SALM 108
Gwnawn wrhydri gyda Duw
Guiting Power 85.85.7.8
1-3Cadarn wyf, O Dduw, a theyrngar.
Mi ddeffrôf yn awr,
Ac â’m crwth a’m telyn lafar,
Fel y tyrr y wawr,
Rhoddaf ddiolch iti’n rhwydd,
O Arglwydd, gyda phobloedd byd.
4-6Cans ymestyn mae dy gariad
Hyd y nefoedd fry.
Cyfod, Dduw, a thros y cread
Boed d’ogoniant di.
Er mwyn gwared d’annwyl rai,
O maddau’n bai, ac ateb ni.
7-8aFe lefarodd y Goruchaf:
“Af i fyny’n awr;
Dyffryn Succoth a fesuraf,
Rhannaf Sichem fawr.
Mae Gilead, led a hyd,
Manasse i gyd yn eiddo i mi.
8b-9Effraim yw fy helm, a Jwda
Fy nheyrnwialen wir.
Moab ydyw fy ymolchfa,
A thros Edom dir
Taflaf f’esgid. Caf foddhad
Yn erbyn gwlad Philistia i gyd”.
10-13Pwy a’m dwg i’r ddinas gaerog?
Pwy, O Dduw, ond ti?
Er it wrthod ein llu arfog,
Rho dy help i ni.
Gwnawn wrhydri gyda Duw,
Cans ofer yw ymwared dyn.
Dewis Presennol:
Salmau 108: SCN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Gwynn ap Gwilym 2008