Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 119

119
SALM 119
Moli Cyfraith Duw
(i)
Eirinwg 98.98.D
1-4Gwyn fyd y rhai perffaith, sy’n rhodio
Yng nghyfraith yr Arglwydd o hyd,
Yn cadw ei farnedigaethau,
A’i geisio â’u calon i gyd,
Y rhai na wnânt unrhyw ddrygioni,
Sy’n rhodio ei ffyrdd heb lesgáu.
Fe wnaethost d’ofynion yn ddeddfau,
A disgwyl i ni ufuddhau.
5-8O na allwn gerdded yn union,
A chadw dy ddeddfau bob pryd.
Ni ddaw im gywilydd os cadwaf
Fy nhrem ar d’orchmynion i gyd.
Clodforaf di â chalon gywir
Wrth ddysgu am dy farnau di-lyth.
Mi gadwaf y cyfan o’th ddeddfau;
Paid, Arglwydd, â’m gadael i byth.
(ii)
Kilmorey 76.76.D
9-10Pa fodd y ceidw’r ifainc
Eu llwybrau’n lân fel ôd?
Trwy gadw d’air. O Arglwydd,
Fe’th geisiais â’m holl fod.
Na ad i mi byth wyro
Oddi wrth d’orchmynion di.
Dy eiriau a drysorais
O fewn fy nghalon i.
11-13Rwyt fendigedig, Arglwydd;
Dy ddeddfau dysg i mi.
Bûm droeon yn ailadrodd
Holl farnau d’enau di.
Yn dy farnedigaethau
Bûm lawen iawn fy mryd;
Roedd fy llawenydd ynddynt
Uwchlaw holl gyfoeth byd.
14-16Fe fyddaf yn myfyrio
Ar dy ofynion di,
Yn cadw dy holl lwybrau
O flaen fy llygaid i.
Yr wyf yn ymhyfrydu
Yn neddfau pur y nef,
Ac am dy air, O Arglwydd,
Byth nid anghofiaf ef.
(iii)
Crug-y-bar 98.98.D
17-20Bydd dda wrth dy was. Er mwyn imi
Gael cadw dy air, gad im fyw;
Ac agor fy llygaid i weled
Rhyfeddod dy gyfraith, fy Nuw.
Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear;
Na chadw d’orchmynion yn gudd.
Dihoena fy nghalon o hiraeth
Am brofi dy farnau bob dydd.
21-24Ceryddaist y balch melltigedig
Sy’n torri d’orchmynion o hyd.
Tyn ymaith eu gwawd, cans fe gedwais
Dy farnedigaethau i gyd.
Er bod tywysogion yn f’erbyn,
Myfyriaf ar dy ddeddfau di.
Dy farnedigaethau sydd hyfryd,
Ac maent yn gynghorwyr i mi.
(iv)
Rutherford 76.76.D
25-28Yn ôl dy air, O Arglwydd,
O’r llwch adfywia fi.
Atebaist fi o’m cyni;
Dysg im dy ddeddfau di.
Eglura ffordd d’ofynion,
Myfyriais arni’n hir.
Yn ôl dy air, cryfha fi;
Anniddig wyf yn wir.
29-32Boed twyll ymhell oddi wrthyf,
Dy gyfraith yn gonglfaen.
Dewisais ffordd ffyddlondeb;
Dy farnau rhois o’m blaen.
Na wawdia fi; cofleidiais
Dy dystiolaethau coeth.
Dilynaf ffordd d’orchmynion,
Cans gwnaethost fi yn ddoeth.
(v)
Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D
33-36O Arglwydd, dysg im ffordd dy ddeddfau;
Caf wobr o’u cadw o hyd;
A gwna fi’n ddeallus i gadw
Dy gyfraith â’m calon i gyd.
Mae llwybr d’orchmynion mor hyfryd:
Gwna imi ei gerdded bob dydd.
Tro fi at dy farnedigaethau,
Ac oddi wrth elw di-fudd.
37-40Tro ymaith fy llygaid rhag gwagedd,
A bydded i’th air fy mywhau.
Cyflawna i’th was dy addewid
I bawb sydd i ti’n ufuddhau.
Tro ymaith y gwawd rwy’n ei ofni,
Oherwydd dy farnau sydd iawn.
Yr wyf yn dyheu am d’ofynion,
O adfer fi i fywyd llawn.
(vi)
Henryd 87.87.D
41-44Rho dy ffafr a’th iachawdwriaeth
Im, yn ôl d’addewid daer;
Ac atebaf bawb o’m gwawdwyr,
Cans gobeithiais yn dy air.
Na ddwg air y gwir o’m genau;
Yn dy farnau di, fy Nuw,
Y gobeithiais; am dy gyfraith:
Cadwaf hi tra byddaf byw.
45-48Rhodio a wnaf yn rhydd oddi amgylch;
Ceisiais dy ofynion di.
Rhof dy gyfraith i frenhinoedd,
Heb gywilydd arnaf fi.
Ymhyfrydaf yn d’orchmynion,
Ac rwyf yn eu caru hwy.
Rwyf yn parchu dy holl ddeddfau,
A myfyriaf arnynt mwy.
(vii)
Mount of Olives 87.87.D
49-52Cofia d’air, y gair y gwnaethost
Imi ynddo lawenhau.
Hyn fu ’nghysur ym mhob adfyd:
Fod d’addewid di’n bywhau.
Er i’r rhai trahaus fy ngwawdio,
Cedwais i bob deddf a roed.
Cefais gysur yn dy farnau,
Ac fe’u cofiais hwy erioed.
53-56Digiais wrth y rhai sy’n gwrthod
Dy lân gyfraith di, fy Nuw,
Cans i mi fe fu dy ddeddfau’n
Gân ble bynnag y bûm byw.
Cofiaf d’enw y nos, O Arglwydd;
Cadw a wnaf dy gyfraith di.
Hyn sydd wir: i’th holl ofynion
Cwbl ufudd a fûm i.
(viii)
Cwmgiedd 76.76.D
57-60Ti yw fy rhan, O Arglwydd;
Addewais gadw d’air.
Rwy’n erfyn, bydd drugarog,
Yn ôl d’addewid daer.
At dy farnedigaethau
Fy nghamre a drof fi,
A brysio a wnaf i gadw
Dy holl orchmynion di.
61-64Dy gyfraith nid anghofiais,
Os tyn yw clymau’r fall,
Ac am dy farnau cyfiawn
Moliannaf di’n ddi-ball.
Rwyt ffrind i bawb sy’n cadw
D’ofynion di. Mae’r byd
Yn llawn o’th gariad, Arglwydd;
Dysg im dy ddeddfau i gyd.
(ix)
Eirinwg 98.98.D
65-68Yn unol â’th air, Arglwydd, gwnaethost
Ddaioni i mi. Dysg i’th was
Iawn farnu, cans rwyf yn ymddiried
Yn llwyr yng ngorchmynion dy ras.
Fe’m cosbaist am fynd ar gyfeiliorn;
Yn awr wrth dy air rwyf yn byw.
Da wyt, ac yn gwneuthur daioni.
Dysg imi dy ddeddfau, O Dduw.
69-72Parddua’r trahaus fi â chelwydd,
Ond cadwaf d’ofynion o hyd.
Trymhawyd eu calon gan fraster,
Ond dygodd dy gyfraith fy mryd.
Mor dda yw i mi gael fy nghosbi
Er mwyn imi ddysgu dy air!
Mae cyfraith dy enau’n well imi
Na miloedd o arian ac aur.
(x)
Crug-y-bar 98.98.D
73-76Dy ddwylo a’m gwnaeth; rho im ddeall
I ddysgu d’orchmynion; fe bair
Lawenydd i bawb sy’n dy ofni
Fy ngweld yn gobeithio yn dy air.
Mi wn fod dy farnau yn gyfiawn,
Ac nad oedd dy gosb ond gwaith gras.
O tyrd i’m cysuro â’th gariad,
Yn ôl dy addewid i’th was.
77-80Er mwyn im gael byw, rho drugaredd,
Cans hoffais dy gyfraith i gyd.
Celwyddau’r trahaus cywilyddier,
Ond ar dy ofynion mae ’mryd.
Boed i’r rhai a’th ofnant droi ataf
I wybod dy farnau, fy Nuw;
A bydded, rhag fy nghywilyddio,
Dy ddeddfau o’m mewn tra bwyf byw.
(xi)
Eifionydd 87.87.D
81-84Rwy’n dyheu am iachawdwriaeth;
Yn dy air gobeithio a wnaf.
Hir ddisgwyliaf am d’addewid,
A dywedaf, “Pryd y caf
Fy nghysuro?” Rwy’n crebachu
Megis costrel groen mewn mwg,
Ond dy ddeddfau nid anghofiaf.
Barna di f’erlidwyr drwg.
85-88Cloddiodd gwŷr, yn groes i’th gyfraith,
Bwll y cwympwn iddo’n syth.
Pan erlidiant, tyrd i’m cymorth;
Sicr yw d’orchmynion byth.
Buont bron â’m lladd, ond eto
Cedwais dy ofynion di
A barnedigaethau d’enau.
Rho dy ffafr, adfywia fi.
(xii)
Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D
89-92O Arglwydd, dy air sy’n dragwyddol;
Mae wedi’i sefydlu’n y nef.
Y mae dy ffyddlondeb yn para;
Fe seiliaist y byd, a saif ef.
Saif popeth yn ôl d’ordeiniadau,
Cans gweision i ti ŷnt i gyd.
Heb gysur dy gyfraith buaswn
Yn f’ing wedi marw cyn pryd.
93-96Hyd byth nid anghofiaf d’ofynion;
Trwy’r rhain y’m hadfywiaist, fy Nuw.
Dy eiddo di wyf. Tyrd i’m hachub,
D’ofynion sy’n llywio fy myw.
Fe gais y drygionus fy nifa,
Ond cadwaf dy farnau di-lyth;
Cans gwelaf fod diwedd i bopeth,
Ond pery d’orchymyn di byth.
(xiii)
Eirinwg 98.98.D
97-100O fel yr wy’n caru dy gyfraith!
Hi yw fy myfyrdod drwy’r dydd.
Fe wna dy orchymyn fi’n ddoethach
Na’m gelyn; mae’n gyson ei fudd.
O ddysgu dy farnedigaethau
Deallaf yn well nag y gwna
F’athrawon na neb o’r hynafgwyr,
Cans cadw d’ofynion sydd dda.
101-104Mi gedwais fy nhraed rhag drwg lwybr,
Er mwyn imi gadw dy air.
Ni throais fy nghefn ar dy farnau,
Cans fe’m cyfarwyddaist yn daer.
Mor felys d’addewid i’m genau,
Melysach i’m gwefus na mêl.
D’ofynion sy’n rhoi imi ddeall;
Casâf lwybrau twyll, doed a ddêl.
(xiv)
Gwalchmai 74.74.D
105-108Llusern yw dy air i’m troed,
Golau i’m llwybrau.
Mi ymrwymais i erioed
I’th holl farnau.
Yn ôl d’air, adfywia fi
O’m gofidiau.
Clyw fy nheyrnged, a dysg di
Im dy ddeddfau.
109-112Cofio a wnaf dy gyfraith di
Mewn peryglon;
Er holl rwydau’r gelyn, mi
Wnaf d’ofynion.
Dy farnedigaethau yw
Fy llawenydd,
Ac i’th ddeddfau tra bwyf byw
Byddaf ufudd.
(xv)
Eirinwg 98.98.D
113-116Yr wyf yn casáu rhai anwadal,
Ond caraf dy gyfraith yn fawr.
Ti ydyw fy lloches a’m tarian;
Yn d’air y gobeithiaf bob awr.
Trowch ymaith, rai drwg, oddi wrthyf,
A chadwaf orchmynion fy Nuw.
O cynnal fi, na’m cywilyddier,
Ac, yn ôl d’addewid, caf fyw.
117-120O dal fi, a chaf waredigaeth,
A pharchaf dy ddeddfau o hyd.
Gwrthodi wrthodwyr dy ddeddfau,
Oherwydd mai twyll yw eu bryd.
Ystyri’r drygionus yn sothach,
Ond minnau, mi garaf hyd byth
Dy farnedigaethau, a chrynaf
Mewn ofn rhag dy farnau di-lyth.
(xvi)
Crug-y-bar 98.98.D
121-124Mi wneuthum i farn a chyfiawnder,
Na ad fi i’m gorthrymwyr, ond bydd
Yn feichiau i’th was; paid â gadael
I’r beilchion fy llethu bob dydd.
Rwy’n nychu am dy iachawdwriaeth,
Am weled cyfiawnder dy ras.
O delia â mi yn dy gariad,
A dysga dy ddeddfau i’th was.
125-128Dy was ydwyf fi; rho im ddeall
Dy farnedigaethau o hyd.
Mae’n amser i’r Arglwydd weithredu,
Cans torrwyd dy gyfraith i gyd.
Er hynny, rwy’n caru d’orchmynion
Yn fwy, ie’n fwy, nag aur drud.
Mi gerddaf yn ôl dy ofynion;
Casâf lwybrau dichell y byd.
(xvii)
Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D
129-132Rhyfeddol dy farnedigaethau;
Am hynny fe’u cadwaf i gyd.
Pan roddi dy air, mae’n goleuo;
Rhydd ddeall i’r syml ei fryd.
Rwy’n agor fy ngenau i flysio
D’orchmynion; O Dduw, trugarha;
Tro ataf, yn unol â’th arfer
I’r rhai sy’n dy garu di’n dda.
133-136O cadw fy ngham i yn sicr;
Na rwystred drygioni dy was.
Rhyddha fi rhag gormes a gorthrwm,
A chadwaf ofynion dy ras.
Boed llewyrch dy wyneb di arnaf,
A dysga dy ddeddfau i mi.
Rwy’n wylo am nad ydyw pobl
Yn cadw dy lân gyfraith di.
(xviii)
Dwedwch, fawrion o wybodaeth 88.88
137-138Arglwydd, yr wyt ti yn gyfiawn,
Ac y mae dy farnau’n uniawn.
Cyfiawn dy farnedigaethau,
Cwbl ffyddlon ydwyt tithau.
139-140Mae ’nghynddaredd wedi cynnau
Am fod rhai’n anghofio d’eiriau.
Mae d’addewid wedi’i phrofi,
Ac rwyf finnau yn ei hoffi.
141-142Er fy mod i’n llai na’r lleiaf,
Dy ofynion nid anghofiaf.
Dy gyfiawnder byth sydd berffaith,
A gwirionedd yw dy gyfraith.
143-144Er bod gofid ar fy ngwarthaf,
Yn d’orchmynion ymhyfrydaf.
Cyfiawn dy farnedigaethau;
Rho im ddeall, a byw finnau.
(xix)
Tan-y-marian 87.87.D
145-148Gwaeddaf arnat; Arglwydd, ateb,
Ac i’th ddeddfau ufuddhaf.
Tyrd i’m gwared, ac fe gadwaf
Dy farnedigaethau braf.
Cyn y wawr rwy’n ceisio cymorth,
Yn dy air mae ’ngobaith i.
Rwy’n myfyrio ym mân oriau’r
Nos ar dy addewid di.
149-152Gwrando ’nghri yn ôl dy gariad,
’N ôl dy farnau adfer fi.
Agos yw f’erlidwyr castiog,
Pell oddi wrth dy gyfraith di.
Yr wyt ti yn agos, Arglwydd.
Mae d’orchmynion oll yn wir.
Seiliaist dy farnedigaethau
Yn dragywydd yn y tir.
(xx)
Eirinwg 98.98.D
153-156O edrych ar f’adfyd a’m gwared,
Cans cofiais dy lân gyfraith di.
Amddiffyn fy achos a’m hadfer,
Yn ôl dy addewid i mi.
Ni ddaw i’r rhai drwg iachawdwriaeth:
I’r rhain aeth dy ddeddfau yn sarn.
Mawr yw dy drugaredd, O Arglwydd;
Adfywia fi’n unol â’th farn.
157-160Ni throis rhag dy farnedigaethau,
Er bod fy ngelynion yn daer.
Ffieiddiais at bawb sy’n dwyllodrus,
Am nad ŷnt yn cadw dy air.
Gwêl fel yr wy’n caru d’ofynion;
Dy gariad, fy Nuw, a’m bywha.
Cans hanfod dy air yw gwirionedd;
Tragwyddol dy farnau, a da.
(xxi)
Crug-y-bar 98.98.D
161-164Erlidir fi gan dywysogion,
Ond d’air di yw f’arswyd bob awr;
Ac rwy’n llawenhau yn d’addewid,
Fel un wedi cael ysbail mawr.
Casâf a ffieiddiaf bob dichell,
Ond caraf dy gyfraith o hyd;
A seithwaith y dydd rwy’n dy foli,
Cans cyfiawn dy farnau i gyd.
165-168Caiff carwyr dy gyfraith wir heddwch;
Ni faglant ar ddim. Yr wyf fi
Yn disgwyl am dy iachawdwriaeth,
Yn cadw d’orchmynion di-ri.
Rwy’n caru dy farnedigaethau,
Eu caru a’u cadw â graen,
Ac i’th holl ofynion rwy’n ufudd,
Cans mae dy holl ffyrdd di o’m blaen.
(xxii)
Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D
169-172Doed fy llef hyd atat, Arglwydd;
Yn ôl d’air gwna fi yn ddoeth.
Clyw ’neisyfiad; tyrd i’m gwared
Yn ôl dy addewid coeth.
Molaf di, fy Nuw, am iti
Ddysgu dy holl ddeddfau i mi.
Canaf am dy addewidion;
Cyfiawn yw d’orchmynion di.
173-176Tyrd i’m helpu, cans dewisais
Dy ofynion; blysio a wnaf,
Arglwydd, am dy iachawdwriaeth;
Yn dy gyfraith llawenhaf.
Gad im fyw i’th foli, a’th farnau’n
Gymorth im. Fel dafad goll
Chwilia am dy was, oherwydd
Cofiais dy orchmynion oll.

Dewis Presennol:

Salmau 119: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda