Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 31

31
SALM 31
Yn dy law y mae f’amserau
Hyfrydol 87.87.D
1-4Ynot, Arglwydd, ceisiais loches;
Na foed c’wilydd arnaf byth;
Achub fi yn dy gyfiawnder.
Gwared fi yn union syth.
Bydd i mi yn graig a noddfa.
Er mwyn d’enw, tywys fi.
Tyn fi o’r rhwyd sy’n cau amdanaf,
Cans fy noddfa ydwyt ti.
5-8I’th law di cyflwynaf f’ysbryd.
Rwyt ti, Arglwydd, yn casáu
Pawb sy’n glynu wrth wag-oferedd
Ac addoli duwiau gau.
Llawenhaf yn dy ffyddlondeb.
Gwelaist fy nghyfyngder prudd;
Ac ni’m rhoddaist yn llaw’r gelyn,
Ond gollyngaist fi yn rhydd.
9-11Trugarha! Mae’n gyfyng arnaf.
Collodd fy holl gorff ei hoen.
Darfod mae fy nerth gan dristwch
A’m blynyddoedd gan fy mhoen.
I’m gelynion rwyf yn ddirmyg,
I’m cymdogion rwyf yn wawd,
I’m cyfeillion rwyf yn arswyd;
Ffy dieithriaid rhag fy ffawd.
12-15Fe’m hanghofiwyd fel un marw;
Llestr a dorrwyd wyf yn awr.
Mae rhai’n cynllwyn am fy mywyd:
Ar bob tu mae dychryn mawr.
Ond rwyf fi’n ymddiried ynot,
Ac yn dweud, “Ti yw fy Nuw”.
Yn dy law y mae f’amserau.
Gwared fi, a byddaf byw.
16-18Na foed arnaf byth gywilydd,
Ond llewyrcha di dy wedd.
Cywilyddia y drygionus,
A’u distewi yn y bedd.
Taro di yn fud wefusau
Y rhai beilchion a thrahaus
Sydd yn siarad am y cyfiawn
Yn gelwyddog a sarhaus.
19-21Mawr i’r rhai sy’n d’ofni, Arglwydd,
Dy ddaioni di o hyd.
Yr wyt yn rhoi lloches iddynt,
A’i amlygu i’r holl fyd.
Fe’u cysgodi rhag gwag glebran
Y tafodau cas eu si.
Bendigedig yw yr Arglwydd:
Bu mor ffyddlon wrthyf fi.
22-24Yn fy nychryn fe ddywedais,
“Torrwyd fi yn llwyr o’th ŵydd”;
Ond pan waeddais am dy gymorth,
Clywaist ti fy ngweddi’n rhwydd.
Carwch Dduw, ei holl ffyddloniaid,
Cans fe’ch ceidw â’i law gref.
Byddwch wrol eich calonnau,
Bawb sy’n disgwyl wrtho ef.

Dewis Presennol:

Salmau 31: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda