Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 61

61
SALM 61
Gweddi am noddfa
Bemerton 65.65
1-2aO Dduw, clyw fy ngweddi,
Gwrando ar fy nghri.
Rwyf ymhell oddi wrthyt,
Pallodd f’ysbryd i.
2b-3Dwg fi at graig uchel.
Buost gysgod siŵr
Imi rhag y gelyn,
Ac yn gadarn dŵr.
4Caniatâ imi aros
Yn dy babell byth.
Gad im dan d’adenydd
Beunydd wneud fy nyth.
5Clywaist ti, O Arglwydd,
F’addunedau i.
Caniatei ddymuniad
Pawb sy’n d’ofni di.
6-7Estyn ddyddiau’r brenin,
A’i hiliogaeth ef.
Gwylia drosto â’th gariad
A’th drugaredd gref.
8Molaf byth dy enw.
Talaf tra bwyf byw
F’addunedau beunydd
Iti, O fy Nuw.

Dewis Presennol:

Salmau 61: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda