Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 78

78
SALM 78
Gweithredoedd Duw mewn hanes
Crug-y-bar 98.98.D
1-8Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl,
Damhegion anhraethol eu gwerth
A draethodd ein tadau gynt wrthym
Am Dduw a’i weithredoedd a’i nerth.
Rhoes arnom ddyletswydd i’w traethu
I’n plant dros yr oesau a fydd,
Rhag iddynt hwy fod fel eu tadau’n
Genhedlaeth derfysglyd, ddi-ffydd.
9-18Gorchfygwyd gwŷr Effraim am iddynt
Anghofio’r cyfamod a wnaeth
Yr Arglwydd â’u tadau, a’u hachub
Pan oeddynt yn Soan yn gaeth.
Fe rannodd y môr, a’u dwyn trwyddo,
A’u harwain â chwmwl a thân.
Fe holltodd y creigiau’n ddŵr yfed,
Ond heriol a chwantus eu cân:
19-31“Gall ddwyn dŵr o’r graig, mae’n wir,” meddent,
“Ond beth am ein bara a’n cig?
A all hulio bwrdd yn yr anial?”
Pan glywodd yr Arglwydd, bu ddig,
A glawiodd y manna, bwyd engyl,
A’r soflieir fel tywod ar draeth;
Ond cododd ei ddig yn eu herbyn,
A lladd y grymusaf a wnaeth.
32-39Er hyn, fe ddaliasant i bechu,
Ac felly fe’u cosbodd ef hwy.
Pan drawai hwy, ceisient ef eto,
Gan dwyllo a rhagrithio yn fwy.
Sawl gwaith y maddeuodd ef iddynt
Eu trosedd, sawl gwaith trugarhau,
Gan gofio mai chwa o wynt oeddynt,
Meidrolion diffygiol a brau?
40-48Mor fynych y gwrthryfelasant
Yn erbyn yr Arglwydd eu Duw,
Heb gofio mai ef a’u gwaredodd
O’r Aifft, ac a’u cadwodd yn fyw.
Troes Afon yr Aifft yn ffrwd waedlyd,
Daeth pryfed a llyffaint yn bla;
Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg,
Daeth haint ar eu preiddiau a’u da.
49-62Fe drawodd eu cyntafanedig,
Ond arwain ei bobl i’w gwlad;
Troes allan genhedloedd o’u blaenau,
Ond profodd wrthryfel a brad.
Digiasant ef â’u huchelfannau,
A’u delwau cerfiedig i gyd.
Am hyn, ymadawodd â Seilo,
A’u lladd yng nghynddaredd ei lid.
63-68aFe ysodd y tân eu gwŷr ifainc,
Fe syrthiodd offeiriaid trwy’r cledd;
Ni allai eu gweddwon alaru;
Ac yna, fel milwr llawn medd,
Fe gododd yr Arglwydd o’i drymgwsg,
A tharo’i elynion bob un.
Gwrthododd lwyth Effraim, a dewis
Llwyth Jwda yn bobl iddo’i hun.
68b-72Troes o babell Joseff, a gosod
Ar ben Mynydd Seion ei gaer,
Sydd gyfuwch â’r nefoedd, a’i seiliau’n
Dragywydd, fel seiliau y ddaer.
Dewisodd, yn was iddo, Ddafydd,
A fu’n fugail defaid di-fraw,
A’i roi i fugeilio’i bobl, Israel,
A’u harwain yn fedrus â’i law.

Dewis Presennol:

Salmau 78: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda