Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 79

79
SALM 79
Arglwydd, a fyddi’n ddig am byth?
Corinth 87.87.D
1-4Mae’r cenhedloedd wedi llygru
D’etifeddiaeth di, O Dduw.
Yn Jerwsalem, fe wnaethant
Dy lân deml yn adfail gwyw.
Rhônt i adar a bwystfilod
Gyrff dy weision di, a’u cnawd.
Tywalltasant waed yn ddyfroedd;
Aethom oll yn destun gwawd.
5-9Arglwydd, am ba hyd? A fyddi’n
Ddig am byth, yn llosgi’n dân?
Tro dy ddicter at y bobloedd
Nad adwaenant d’enw glân.
Paid â dal drygioni ein tadau
Yn ein herbyn. Trugarha.
Dduw ein hiachawdwriaeth, maddau
Inni, er mwyn dy enw da.
10-13Pam y caiff estroniaid holi,
“Ple mae’u Duw?”? Diala’n glau
Waed dy weision; clyw ochneidiau’r
Carcharorion, a’u rhyddhau.
Taro seithwaith ein cymdogion
Am dy watwar; a chawn ni,
Braidd dy borfa, ym mhob cenhedlaeth,
Adrodd byth dy foliant di.

Dewis Presennol:

Salmau 79: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda