Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 80

80
SALM 80
Gwinwydden Duw
Father, I place into your hands 86.86.86.9
1-3Gwrando, O fugail Israel, sy’n
Ein harwain ni o hyd,
Uwch y cerwbiaid yr wyt ti’n
Teyrnasu dros y byd.
Adfer Fanasse, Benjamin,
Ac Effraim, dy braidd mud.
Tro dy wyneb atom; gwared ni.
4-7Arglwydd, pa hyd y troi i ffwrdd
Oddi wrth ein gweddi dlawd?
Rhoist fara dagrau ar ein bwrdd,
A gwnaethost ni yn wawd.
Arglwydd y Lluoedd, adfer ni,
A’n hachub rhag ein ffawd.
Tro dy wyneb atom; gwared ni.
8-13Dygaist o’r Aifft winwydden braf,
A chlirio iddi’r tir.
Cuddiai ei chysgod fryniau’r haf,
A thyfai’i changau’n hir.
Pam rhwygo’i chloddiau, nes bod pawb
Yn tynnu’i ffrwythau ir,
A bod baedd y coed yn tyrchu’r pridd?
14-19O Dduw y Lluoedd, cadw di
Dy winllan rhag pob clwy;
Am y rhai sy’n ei llosgi hi,
Cerydda a difa hwy.
Arglwydd y Lluoedd, adfer ni.
Ni thrown oddi wrthyt mwy.
Tro dy wyneb atom; gwared ni.

Dewis Presennol:

Salmau 80: SCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda