Yr Actæ 4
4
Pen. iiij.
Petr ac Ioan wedy’r ddelifro allan o carchar yn precethy yr Euangel yn hyderus, Hwy yn coffessu yn eglur Enw Christ. Gorchymyn ydd ys na phraecethont mwy yn yr Enw hwnw. Gweddiaw y maent ar rwyddhay rhag yr Evangel. Am vawr gynnyrch, dyvndab ac perfeith cariat yr Eccles.
1AC mal ydd oeddent wy yn llavaru wrth y popul, y bu ir Archoffeiriat, a #4:1 * llywiawdr, llywiodaeth wrllywyð y Templ, a’r Sadduceit ddyvot am ei pennae, 2gan vot yn ddicllawn ganthwynt eu bot yn dyscy yr bopul, ac yn praecethy yn Envv yr Iesu y cyvodedigaeth o veirw. 3Ac wynt a roesont ei dwylo arnwynt, ac ei dodesont yn‐carchar yd #4:3 ‡ avorutranoeth: can ys yr owon gyd a’r hwyr ytoedd hi. 4Er hyny llawer o’r a wrandawsei yr gair a gredesōt, #4:4 * rriveddia’ niuer y gwyr oeð yn‐cylch pemp‐mil.
5Ac e ddarvu y dydd, dranoeth, bot y llywiawdwyr hwy, a’r Henafiait, a’r gwyr llen wedi ymgynull yn‐Caerusalem, 6ac Annas yr Archoffeiriat, ac Caiaphas, ac Ioan, ac Alexander, a chynniuer ac oeddynt o genedl yr Archoffeiriait. 7Ac wedy yddwynt ei gosot #4:7 ‡ in mediogwydd-yn‐gwydd ac wynt, y gofynesont, #4:7 * CanTrwy pa allu, n ai ym‐pa Enw y gwnaetho‐chwi hynn? 8Yno Petr yn gyflawn o’r Yspryt glan, a ddyvot wrthwynt, Chvvychvvi lywiawdwyr y popul, a’ Henyddion yr Israel, 9can bot in #4:9 holi ni heddyw o bleit gweithret da avvaetham i ddyn egwan, ys ef pa wedd, ydd iachawyt ef, 10bit wybodedit ychwy oll, ac i oll bopul yr Israel may trwy Enw Iesu Christ o Nazaret, yr vn a groceso‐chwi, yr vn a adgyvodes Dew i vynydd o veirw, ystrwy ddaw ef y saif ydyn hwn geyr eich bron chwi yma yn iach. 11Hwn yw’r #4:11 ‡ garecmaen a vwriwyt heibio genwchwi yr adeilatwyr, yr hwn a #4:11 * aethwnaethpwyt yn ben congyl. 12Ac nid oes iechydvvrieth yn nep arall: can ys ym‐plith dynion ny roddwyt #4:12 ‡ nebvn enw arall y dan y nef, y gellir ein iachay y ganthaw. 13A’ phan welsant #4:13 * eonder, lewderhyder Petr ac Ioan yn amadrodd a’ deall y bot wy yn anllytherenawc ac eb #4:13 ‡ wybodaethddysc ganthwynt, rhyveðy a wnaethant, a’ ei adnabot, pan yw ei bot hwy y gyd a’r Iesu: 14ac wrth welet hefyt #4:14 * yr hwuy dyn a iachesit yn sefyll gyd ac wynt, ny allent ðywedyt dim yn erbyn y peth. 15Eithyr gorchymyn yddwynt cilio o ywrth y #4:15 ‡ SynneddrCyccor, ac ymgygcori yn ei plith ei hunain a wnaethant, 16gan ddywedyt, Pa beth a wnawn i’r dynion hynn? can ys y’n ddiau e wnaethpwyt arwydd #4:16 * amlwceglur y canthwynt, ac y mae yn amlwc hyn y gā pawp ’sy yn #4:16 ‡ trigiopreswilio yn‐Caerusalem ac ny allwn ni wady. 17Eithr rac ei gyhoeðy #4:17 ‡ mwyachym‐pellach ym‐plith y popl, bygythiwn a’ #4:17 * yn vygulusbygylwn hwy, na bo yðynt gympwyll mwyach wrth #4:17 ‡ vnnep dyn yn yr Enw hwn. 18A’i galw a wnaethāt, ac a ’orchymynesont yddynt na byðei yddynt ym‐moð yn y byd gympwyll na dyscu ’r bopul yn Enw ’r Iesu. 19Ac yno Petr ac Ioan a atebesāt yðynt, gan ðywedyt, Ai iawu yw yn‐golwg Dew #4:19 * gwrandovfyddhay i chwi yn hytrach ai i Ddew, bernw‐chwi. 20Can na allwn na ðywetom y pethe ’welsam ac a glywsam. 21Ac velly ei bygyly a wnaethāt, a’ ei gellyng ymaith, eb vedry cahel dim deunydd y #4:21 * cospipoeni wy, o bleit y p opul: can ys pawp oeddynt yn #4:21 ‡ moligogoneddy Dew, o bleit y peth y #4:21 * vesei, ddarveseiwnaethoeðit. 22Can ys yð oedd y #4:22 ‡ gwrdyn yn vwy no dauugain blvvydd oed, y #4:22 * ðangosesitgwneythit y #4:22 ‡ a signumgwyrthiae yma or iachay arnaw. 23Yno wedy daroedd gyntaf ei gellwng ymaith, yd aethant at ei #4:23 * cymddeithioncyueillon, ac venagesont yr oll bethae’ry vesei ir Archoffeiriait a’r Henyðion ei ddywedyd wrthwynt. 24A’ phan ei clywsant vvy, derchafy ei llef ar Ddew a wnaethant yn vnvryd, a’ dywedyt, Arglwydd, ti yw ’r Dew r’y wnaethost nef a’ ddaiar, a’r mor a’ chymeint oll ys ydd ynthwynt, 25yr hwn trwy enae dy #4:25 was Dauid a ddywedeist, Paam ydd ymgynddeiriogodd y Cenetloedd, ac y meddyliawdd y popul bethæ gweigion? 26Brenhinedd y ddaear a ymgasclesont, a’r llywiawdron a ddaethant yn‐cyt, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn y #4:26 ‡ Eineiniedic, iredicChrist ef. 27Can ys yn wir yn erbyn dy sanct Vap Iesu, yr hwn a #4:27 * iraistenneiniaist yð ymgymiullawdd Herod ac Pontius Pilatus y gyd a’r genetloedd a phopul yr Israel, 28i wneythy’r beth bynac a ddaroedd ith law ac ith gygcor di racdervyny ei wneythy’r. 29Ac yn awr Arglwydd, edrych ar ei #4:29 ‡ bygythiebygylae, a’ chaniatha ith weison ymadrodd dy air yn gwbyl #4:29 * eon, llyfasushyderus, y n y bo yty estyn dy law, 30yd pan yw bot gwneythy’r iachay, ac arwyddion a’ ryveddodae drwy Enw dy sanct Vap Iesu. 31A’ gwedy yðwynt weddiaw, y cyffroawdd y lle ydd oeddent wedy’r ymgynnull, ac y cyflawnwyt wy oll o’r Yspryt glan, ac wy a ymadroddesont ’air Dew yn #4:31 * hyf, llyfasushyderus. 32A’ lliaws yr ei oedd yn credy, ytoeddd o vn galon, ac un enait: ac ny ddyvot yr vn o hanwynt am ddim oll a veðei, ei vod yn eiddaw ehun, amyn bot pop peth yn gyffredin ganthwynt. 33Ac a mawr gadernit y rhoes yr Apostolon testiolaeth cyfodiat yr Arglwydd Iesu, a’ rrat mawr ytoedd arnwynt oll. 34Ac nid oedd vn yn ei plith, ac eisie arno: can ys cynniuer ac oedd yn meddy tiredd nai tai, ei gwerthy a wnaethāt, a’ dwyn gwerth y pethae y werthit, 35a’ei #4:35 * ðdodi’osot ilawr wrth draet yr Apostoliō. A’ rhanny a wneit i bop vn, megis ydd oedd yn rhait iddaw vvrtho. 36Ac Ioses yr hwn a elwit y gan yr Apostolon Barnabas (ys ef yw hyny o ei ddeongl map diddanwch) oedd yn Leuit ac o vvlad Cyprus, 37o enedigaeth, ac ef yn perchenawc tir, ei gwerthawdd, ac a dduc yr ariant, ac ei gesodes wrth draet yr #4:37 Apostolon.
Dewis Presennol:
Yr Actæ 4: SBY1567
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2018