Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yr Actæ 6

6
Pen. vj.
Saith Daiacon a ordeinir yn yr Eccleis. Radae a’ gwyrthiae Stephan, yr hwn a gyhuddesant wy yngham, ac yn ddiachos.
1AC yn y dyddiae hynny, val y tyvei niveiri’r’discipulon, e godes #6:1 * grwgnachmurmur gan y Groegieit yn erbyn yr Hebrewyr, can ys #6:1 diystyrytremegy y gwrageð‐gweðwon hwy yn y gwenidogaeth beunyddawl. 2Yno yr dauddec a alwasont y lliaws discipulon yn‐cyd, ac a ddywetsont, Nid yw cymmesur gady o hanam gair Dew a’ gwasadaethy yr #6:2 * byrddeubordae. 3Ac am hyny vroder, edrychwch yn eich plith am seith‐wyr da ei gair, ac yn gyflawn o’r Yspryt glan, ac o ðoethinep, yr ei a ’osotom yddyn y gorchwyl hwn. 4A’ nine a ymrown yn ’oystat i weddiavv, ac y arweiny y gair. 5Ac boddlawn vu gan yr #6:5 dyrfaoll lliaws yr amadrodd hynny. Ac wy a ddetholesant Stephan gwr yn llawn o ffydd ac or Yspryt glan, ac Philip, ac Prochorus, ac Nicanor, ac Timon, ac Parmenas, ac Nicolas y #6:5 * dieithrproselyt o Antiocheia, 6yr ei ’n a osodent wy geyr bron yr Apostolon: ac wynt a weddiasont, ac a ddodesont ei dwylaw arnaddvvynt. 7A’ gair Dew a dyvodd, ac a #6:7 amylhaoðliosocawdd niuer y discipulon yn‐Caerusalem yn ddirvawr, a’ thorfa vawr o’r Offeirait a vvyddesont ir ffydd.
8Ac Stepha nyn llawn o ffyð a’ #6:8 * chadernitnerth, a wnaeth rvveddodae mowrion #6:8 ac arwyddiona’ gwyrthiae ymplith y popul. 9Yno y cyvodes ’r ei o’r Synagog a elwir Libertinieit, a’ Cyreniait ac o Alexandria, ac or ei o Cilicia, ac o Asia, ac a ddadleysant ac Stephan: 10ac ny allent wrthnepy y doethinep, a’r Yspryt y gan yr hwn ydd oedd ef yn ymadrodd. 11Yno #6:11 * yd anvonesonty gesodesont wyr, y ddywedent, Ni y clywsam ef yn #6:11 dywedyt adroddllavaru cabl‐airiae yn erbyn Moysen, a’ Dew. 12Ac val hynn y cyffroesant vvy y #6:12 * populplwyf a’r Henafieit, a’r Gwyr‐llen: ac a ruthrasont iddaw, ac a ymaflasont ynto, ac ei ducesant at a Cycor, 13ac a ’osodesont destion #6:13 ffailagauoc, yr ei a ddywedesont, Y dyn hwn ny phait a llavaru cabl‐airiae yn erbyn y lle sanctaidd #6:13 * ymahwn, a’r Ddeddyf. 14Can ys clywsam ef yn dywedyt, y byð ir Iesu hwn o Nazaret ddestrywio y lle hwn, ac #6:14 uewediawysmuto ’r #6:14 cynneddfeu, y roddes Moysen y nyni. 15Ac val ydd oedd yr oll r’ei y eisteddent yn y Cycgor, yn #6:15 * seliedrych yn graph arnaw, y gwelent ei wynep val petei wynep Angel.

Dewis Presennol:

Yr Actæ 6: SBY1567

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda