Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 1

1
Pen. j.
Am Zacharias ac Elizabet. Yr Angel yn manegi iddo o enedigeth Ioan Vatyddiwr. Poyni ancrediniaeth Zacharias. Ymddiddan yr Angel ef a’ Mair. Y chaniat hi. Genedigaeth, enwaediat a’ doniae Ioan. Zecharias yn diolwch y Dduw, ac yn prophwyto.
1CAn ddarvot i laweredd gymryd arnaddynt vanegy hystoria y pethae ys y lawn gredadwy genym ni, 2megis yr adroddent y ni, yr ei o’r dechreuat oeðēt y hunain yn gweled, ac yn weinidogion y #1:2 * pethgair, 3ys gwelit vot yn iawn i mi (yr ardderchawc Theophilus) er cynted y darvu i mi chvvilio am bop peth yn ddilys oei von, 4yscriveny atat’ o hanyn yn drefnus, val y byddei i ti gyfadnabot #1:4 dilysrwyðgwirionedd y pethae ith addyscwyt ynthynt.
5YN‐dyddiae Herod Vrenhin Iudaea, ydd oedd ryw Offeiriat a’ ei enw Zacharias o #1:5 * ystem, gwrs, ddiernotgylchðyð Abia: a’ ei wraic oedd o verched Aaron, a’i henw oedd Elisabet. 6Ydd oeddent illdau yn gyfiawn #1:6 * yngolwc, yngwyddgeyrbron Dew, ac yn rhodio yn yr oll ’orchmynnae ac #1:6 a deddfaeordinadae yr Arglwydd yn #1:6 * ðigeryðadwyddi‐veius. 7Ac nid oedd vn plentyn yddynt, can vot Elisabet #1:7 yn anvap, hespheb planta: ac ill dau gwedy myned mewn #1:7 gwth, talmswrn da o oedran. 8Ac e ddarvu, ac efe yn gwneythy’r swydd‐Offeiriat geyr bron Duw, yn ol trefn y ddyddgylch ef, 9erwydd #1:9 moes, arver verdevot swydd Offeiriat, y daeth o #1:9 * ystem, ddigwyddran iddaw vwgdarthy‐y-peraroglae pan ddelai i mevvn Templ yr Arglwydd. 10A’r oll lliaws popul oedd allan yn gweddiaw, tra oeddit yn mygdarthy y peraroglae. 11Yno yr ymðangoses iddo Amgel yr Arglwydd yn sefyll or tu deheu i allor y mugdarth. 12A’ phan ei gwelodd Zacharias, y #1:12 cynnyrfit, cyffroittrallodit, ac ofn a ddygwyddawdd arnaw. 13A’r Angel y ddyuot wrthaw, Nag ofna, Zacharias: can ys #1:13 * gwrandawyterglywyt dy weddi, ath wraic Elisabet a ymðwc y ti vap, a’ gelwy y enw ef yn Ioan. 14A’ thi gai lewenydd a’ gorvoledd, a’ llaweroedd a’ lawenychant #1:14 ar, wrtham y enedigaeth ef. 15Can ys mawr vydd ef yn‐golwc yr Arglwyð, ac nyd yf na gwin na diot‐gadarn: ac a gyflawnir #1:15 * aro’r yspryt glan, ys o vru ei vam. 16A’ laweroedd o blant yr Israel a ddymchwel ef at ei h’Arglwydd Dduw. 17Can ys ef aa yn y ’olwc ef yn yspryt a ’meddiant Elias, i #1:17 droyddymchwelyt calonae y tadae i’r plant, a’r ei anhydyn #1:17 * at, ar ddoethinebi brudddap y cyfiawnion, er iddo arlwyavv popul #1:17 arvaethedicparat i’r Arglwydd. 18Yno y dyuot Zacharias wrth yr Angel, Wrth pa herwydd y gwybyddaf hyn? can ys ydd wy vi yn hen‐wr, a’m gwraic ysy wedy cerddet mewn swrn oedran. 19A’r Angel aatepodd ac a ddyvot, wrthaw, Mi yw Gabriel yr hwn a saif yn‐golwc Duw, ac a ddanvonwyt y ymddiddan a’ thi, ac y vanegi yty y #1:19 * chwedleu, goelvainpethe dayonus hyn. 20A’ nycha y byddy vut, ac ny elly #1:20 ymadrodd, ddywedytymddiddan, yd y dyð y gwnaer y pethae hyn, can na chredaist vy‐gairiae, yr ei a gyflawnir yn y hamser, 21Ac ydd oedd y popul yn aros am Zacharias, ac yn rhyfeddu y vot ef yn trigio cyhyd yn y Templ. 22A’ phan ddaeth ef allan, ny #1:22 * vedreiallei ef ddywedyt dim wrthynt: yno y gwybuont weled o hanaw weledigaeth yn y Templ: can ys ef #1:22 oedd yn amneidioa arwyddocaodd yddynt, ac a arhoesavvdd yn vut. 23Ac e ddarvu, pan gyflawnwyt dyddiae y swydd ef, vot iddo vynedd yw duy y un. 24A’ gwedy ’r dyddiae hyny yr ymdduc Elisabet y wreic ef, ac yr ymguddiawdd bemp‐mis, gan ddywedyt, 25Ys vellhyn y gwnaeth yr Arglwydd a mivi, yn y dyddiae ydd edrychawdd arnaf, y ddwyn y wrthyf #1:25 * vyngwarthrudd, vynnannotvy lliwiant ymplith dynion.
Yr Euangel ar ddydd Cyfarchiat Mair wyry.
26¶ Ac yn y chwechet mis, yd anvonwyt yr Angel Gabriel #1:26 * ywrthgan Dduw i ddinas yn Galilea a elwit Nazaret, 27at #1:27 wyryvorwyn wedy #1:27 * ymffyddiodyweddiaw a gwr aei enw Ioseph, o tuy Dauid, ac enw’r vorwyn oedd Mair. 28A’r Angel aeth y mewn atei, ac a ddyvot, Hynpych‐gwell #1:28 yr hon ath gerir yn rhaty rad-garedic: yr Arglwydd ys y gyd a thi: bendigeit vvyt ymplith gwrageð. 29A’ phan weles hi ef, cyntyrfu a wnaeth hi #1:29 * wrthcan ’ymadrydd ef, a ’meðyliaw pa ryw annerch oedd #1:29 hynnyhwnnw. 30Yno dywedyt o’r Angel wrthi, Nag ofna, Vair, can ys #1:30 * ithoffwyt gan Dduw ai ith hoffir &c.ceveist’rat geyr bron Duw. 31Can ys #1:31 welenycha yr ymddugy yn dy vru, ac yr escory ar vap ac a elwy ei enw Iesu. 32Hwn a vyð mawredic, a’ map ir Goruchaf y gelwir, ac a ryð yr Arglwydd Dduw ydd‐aw #1:32 * thron, eisteddfa’orsedd ei dat Dauid. 33Ac ef a deyrnasa ar ucha tuy Iaco yn #1:33 oesoeddtragywydd, ac ar ei deyrnas ny bydd dywedd. 34A’ dywedyt a #1:34 * awnaethoruc Mair wrth yr Angel, Pa vodd vydd hynn, can nad adwaenwyf wr? 35A’r Angel atepawdd, ac a ddyvot wrthei, Yr yspryt glan a ddaw arnat, a’ nerth y Goruchaf ath wascota. Wrth hynny a’r peth sanctaidd a aner o hanot, a elwir #1:35 yn vapMap Duw. 36Ac wely, dy gares Elizabet, ac yhi ymdduc vap yn hei henaint: a’ hwnn yw’r chwechet mis iddi, yr hon a elwir #1:36 * anvap, eb plantahesp. 37Can ys #1:37 gyd ageyr bron Duw ny bydd dim yn analluavvc. 38Yno y dyvot Mair, Wele #1:38 * llawvorwyn#1:38 wraic,wasanaethyddes yr Arglwyð: bit i mi #1:38 * yn olerwydd dy air. #1:38 ynoA’r Angel aeth ymaith y wrthei.
39A’ Mair a’ gyuodes yn y dyddiae hyny, ac aeth ir vvlad vynyddic ar ffrwst i ddinas yn Iudaia, 40ac aeth y mewn i duy Zacharias, ac gyfarchoð‐well i Elisabet. 41A’ darvu, wrth glywet o Elizabet annerchiat Mair, y #1:41 * llamoddneidiawdd y plentyn yn y #1:41 brw bolychroth hi, a’ llenwit Elizabet o’r Yspryt glan. 42A ’llefain o hanei a llef vchel, a’ dywedyt, Bendigedic #1:42 * wytyvv ti ymplith gwragedd, can ys‐bendigedic ffrwyth dy groth. 43Ac o b’le ydaw hyn i mi, pan yw dyuot o vam vy Arglwyð at y vi? 44Can ys #1:44 welenycha #1:44 * cyer cynted y deuth llef dy anerchiad im clustiae, y neidiodd y plentyn yn vy‐bru gan #1:44 lewenydd’orvoledd. 45Ac ys bendigedic hon a gredawdd: canys #1:45 * cwpleirgorphenir y pethae, a ddywetpwyt iddi y gan yr Arglwydd. 46Yno y dyuot Mair, Ys mawrha vy enait yr Arglwydd. 47A’m yspryt a lawenycha yn‐Duw #1:47 * vyngheidwadvy Iachawdr. 48Can ys ef a edrychawdd ar #1:48 waeledd, i selraddiselder ei #1:48 * llawvorwyn, gwasnaethwreicwasanaethyddes: can ys nycha o’r pryd hyn allan ym gailw yr oll oesoed vi yn #1:48 ddedwyddwynvydedic. 49Can ys y cadarn a wnaeth i mi vawreð, a’ sanctaidd yvv ei Enw. 50A’ ei drugaredd ’sy yn oes osoedd ir sawl y hofnant ef. 51Ef a wnaeth gadernit a’ ei vraich: ef a ’oyscarawdd y beilchion ym-meddwl ei calonae. 52Ef a dynnawdd y cedyrn y lawr o ei heisteddfaë, ac a dderchafawdd yr ei isel‐radd. 53Ef a lanwodd y newynogion a da bethae, ac a ddanvonawdd ymaith y #1:53 * cyfoethiongoludogion yn #1:53 eisivedic grfiawweigion. 54Ef a gynnaliodd Israel ei was, gan #1:54 * veddiliaw amgoffay ei drugaredd 55(megis y dyuot ef wrth eyn tadae, ys ef wrth Abraham a’ ei #1:55 hil, epil, ’o helythhad) yn dragyvyth.
56A’ Mair a arhoesavvdd y gyd a hi yn‐cylch tri‐mis: ac yno ydd aeth hi y’w thuy y hun.
Yr Euangel ar ddydd Ioan Vatyddiwr.
57¶ Gwedy cyflawny #1:57 * amsertemp Elizabet, y escor, a’ hi a escorawdd ar vap. 58Ac a glypu hei chymydogion ae #1:58 * chereintchenetl ddarvot ir Arglwydd ddangos ei vawredic drugaredd arnei, a’ chydlawenychy a hi a wnaethant. 59Ac e ddarvu, pan yw ar yr wythvet dydd ydaethant i enwaedy ar y dyn‐bachan, ac ei galwesont ef Zacharias, yn ol enw ei dat. 60A’ ei vam a atepawdd, ac a ddyvot, #1:60 Nid dim, nid vellyNag e, eithyr ei galwer yn Ioan. 61Ac wy a ddywedesont wrthei, Ny’d oes vn oth cenetl a elwir ar enw hwnn. 62Yno ydd amneidiesant ar ei dat, pa wedd yr ewyllesei ef ey #1:62 * enwiralw. 63Ac ef a alwadd am astyllen orgraph, ac a escrivenawdd, can ddywedyt, Ioan yw ei enw, a’ rhyveddy a wnaethant oll. 64A’ ei enae a egorwyt yn ebrwydd, a’ ei davot a ellyngvvyt, ac ef a ymddiddanawdd, can #1:64 volivendithiaw Duw. 65Yno y daeth ofn ar ei oll gymydogion, a’r oll #1:65 * pethae’airiae hynn a #1:65 vanegwytgyhoeddwyt trwy oll #1:65 * ’orvynyddeddvlaeneudir Iudaiah. 66A’ phawp a’r a ei clypu, ei gesodesont yn ei calonae, gan ddywedyt, Pa ryw ddyn‐bachan vydd hwnn? A’ llaw yr Arglwydd oedd gyd ac ef. 67Yno ei dat Zacharias a gyflawnwyt o’r yspryt glan, ac a prophwytawdd, can ddywedyt. 68Bendigeit vo Arglwydd Dduw’r Israel: can ys #1:68 ymweloddgovwyawdd ac a brynawdd ey bopul. 69Ac ef a adderchavawdd #1:69 * nerth, cedernitgorn iechyt y ni, yn‐tuy Dauid ei wasanaethwr, 70megis y dyvot trwy enae ey sanctaið Prophwyti, yr ei oedd #1:70 * er. &c.o ddechrae r byt, 71rei ddywedent, yd anvonei ef i ni ymwared rac ein gelynion a’ rhac dwylo ein oll ddygasogion, 72y ddangos trugaredd ar ein tadae, a’ choffay ei #1:72 ammodddygymbot sanctaidd, 73a’r #1:73 * twngllw a dyngawdd wrth ein tat Abraham 74nid amgen bot iddo ganiatay y ni, gahel ymwared y wrth ddwylo ein gelynion, a’ ei wasanaethy #1:74 eb ofnyn ddiofn oll ddyddiae ein bywyt, 75mewn sancteidrwydd ac #1:75 * deddfoldepiawnder geyr y vron ef. 76A’ thithe vab ath elwir yn Prophwyt y Goruchaf: can ys ti ai o vlaē wynep yr Arglwydd i baratoi y ffyrdd ef, 77ac y roðy gwybyddlaeth o iechyt #1:77 yddyyw bopul ef, can vaðeuāt oei pechatae. 78Trwy #1:78 * emyscargalondit trugaredd ein Duw, gan yr #1:78 hynnhonn y #1:78 * ymwelodd a nigovwyawdd y #1:78 bagluryn, ai bagluryntowyn‐haul o’r vchelder. 79I dowyny ir ei a eisteddant mewn tywylwch, ac yngwascawt angae, er #1:79 * cyfeiriaw, llywiawcymmetry ein traet i ffordd tangneddyf. 80A’r #1:80 dyn bach a gymydawðmaban a dyfodd ac a gadarnhawyt yn yr yspryt, ac a vu yn y diffeithwch, yd y dydd yr ymddangosei i’r Israelieit.

Dewis Presennol:

Luc 1: SBY1567

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda