Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 26

26
Y Tabernacl
Ex. 36:8–38
1“Gwna'r tabernacl o ddeg llen o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arnynt. 2Bydd pob llen yn wyth cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint. 3Bydd pump o'r llenni wedi eu cydio wrth ei gilydd, a'r pump arall hefyd wedi eu cydio wrth ei gilydd. 4Gwna ddolennau glas ar hyd ymyl y llen sydd ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall. 5Gwna hanner cant o ddolennau ar un llen, a hanner cant ar hyd ymyl y llen ar ben yr ail gydiad, gyda'r dolennau gyferbyn â'i gilydd. 6Gwna hefyd hanner cant o fachau aur, a chydia'r llenni wrth ei gilydd â'r bachau er mwyn i'r tabernacl fod yn gyfanwaith.
7“Gwna un ar ddeg o lenni o flew geifr i fod yn babell dros y tabernacl. 8Bydd pob llen yn ddeg cufydd ar hugain o hyd a phedwar cufydd o led, pob llen yr un maint. 9Cydia hwy wrth ei gilydd yn bum llen ac yn chwe llen, a gwna'r chweched yn ddwbl dros wyneb y babell. 10Gwna hanner cant o ddolennau ar hyd ymyl y llen ar y tu allan i'r naill gydiad a'r llall.
11“Gwna hanner cant o fachau pres a'u rhoi yn y dolennau i ddal y babell wrth ei gilydd yn gyfanwaith. 12Bydd yr hyn sydd dros ben o lenni'r babell, sef yr hanner llen, yn hongian y tu ôl i'r tabernacl. 13Ar y ddwy ochr bydd y cufydd o lenni'r babell sydd dros ben yn hongian dros y tabernacl i'w orchuddio. 14Gwna do i'r babell o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod.
15“Gwna hefyd ar gyfer y tabernacl fframiau syth o goed acasia, 16pob un ohonynt yn ddeg cufydd o hyd a chufydd a hanner o led, 17a dau denon ym mhob ffrâm i'w cysylltu â'i gilydd; gwna hyn i holl fframiau'r tabernacl. 18Yr wyt i wneud y fframiau ar gyfer y tabernacl fel hyn: ugain ffrâm ar yr ochr ddeheuol, 19a deugain troed arian oddi tanynt, dau i bob ffrâm ar gyfer ei dau denon; 20ar yr ail ochr i'r tabernacl, sef yr ochr ogleddol, bydd ugain ffrâm 21a deugain troed arian, dau dan bob ffrâm; 22yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol, gwna chwe ffrâm, 23a dwy arall ar gyfer conglau cefn y tabernacl, 24wedi eu cysylltu yn y pen a'r gwaelod â bach; bydd y ddwy ffrâm yr un fath, ac yn ffurfio'r ddwy gongl. 25Felly bydd wyth ffrâm ac un ar bymtheg o draed arian, dau droed dan bob ffrâm.
26“Gwna hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl, 27pump ar gyfer fframiau'r ochr arall, a phump ar gyfer y fframiau yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol. 28Bydd y bar sydd ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i'r llall. 29Yr wyt i oreuro'r fframiau, a gwneud bachau aur i osod y barrau trwyddynt; yr wyt hefyd i oreuro'r barrau. 30Yr wyt i adeiladu'r tabernacl yn ôl y cynllun a ddangoswyd iti ar y mynydd.
31“Gwna orchudd o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arno. 32Gosod ef â bachau aur ar bedair colofn o goed acasia, wedi eu goreuro ac yn sefyll ar bedwar troed arian. 33Rho'r gorchudd ar y bachau, a chludo arch y dystiolaeth oddi tano; bydd y gorchudd yn gwahanu rhwng y cysegr a'r cysegr sancteiddiaf. 34Rho'r drugareddfa ar arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiaf. 35Gosod y bwrdd y tu allan i'r gorchudd, ar ochr ogleddol y tabernacl, a'r canhwyllbren gyferbyn â'r bwrdd, ar yr ochr ddeheuol.
36“Ar gyfer drws y babell gwna len o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio. 37Ar gyfer y llen gwna bum colofn o goed acasia wedi eu goreuro, a bachau aur, a llunia o bres bum troed ar eu cyfer.

Dewis Presennol:

Exodus 26: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda